Jake yn ffarwelio’r Scarlets wrth iddo ddychwelyd i Awstralia

GwenanFeatured

Bydd Jake Ball yn hedfan nôl i Awstralia ar y penwythnos wrth iddo ffarwelio teulu’r Scarlets.

Chwaraeodd ei gêm olaf i’r Scarlets gan orffen naw mlynedd fythgofiadwy yng Ngorllewin Cymru.

Gyda 50 o gapiau i’w enw, mae Jake wedi chwarae 133 o weithiau i’r Scarlets ac roedd yn aelod o’r garfan enillodd teitl y Guinness PRO12 yn 2017 a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol o Gwpan Pencampwyr Ewrop wythnos yn ddiweddarach.

Cafodd Jake sgwrs gyda’r cyn asgellwr a rheolwr tîm Garan Evans i sôn am yr heriau wynebwyd pan gyrhaeddodd Gorllewin Cymru yn gyntaf, ei uchafbwyntiau o’i amser yma, ac fel mae am gael ei gofio wrth edrych ymlaen at ddychwelyd i’w deulu a’i fabi newydd Max.

Gallwch wylio’r cyfweliad llawn yma