Mae’r prop Javan Sebastian, chwaraewr sydd wedi datblygu trwy rengoedd y Scarlets, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.
Mae Javan, sy’n 26 mlwydd oed, wedi ymddangos ym mhob gem Guinness PRO14 y tymor hwn ac fe ddaeth oddi’r fainc yn ystod gem Cwpan y Pencampwyr i adael ei farc yn erbyn Caerfaddon ym mis Rhagfyr.
Wrth iddo ddatblygu trwy system Academi’r Scarlets, cafodd Sebastian ei gapio gan Gymru d18 ac fe chwaraeodd i Gwins Caerfyrddin yn y Gynghrair Gymreig.
Yn dilyn cyfnod byr gyda Glasgow Warriors, mae Javan nawr yn ei ail gyfnod gyda’r Scarlets ac mae ei dyfalbarhad a gwaith caled yn amlwg wrth iddo gael ei wobrwyo gyda chytundeb newydd ar gyfer 2021-22 a’r dyfodol.
“Mae Javan wedi gweithio’n galed iawn ar ei hun, ac mae’r gwaith hynny’n amlwg gan ei fod wedi ymddangos ym mhob gem tymor yma. Mae’n esiampl i’r chwaraewr ifanc bod unrhywbeth yn bosib os ydych yn barod i weithio amdani,” dywedodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney.
“Rydym yn ffodus iawn i gael hyfforddwr fel Ben Franks sydd gyda digon o brofiad ac yn deall beth sydd angen i baratoi. Mae rhannu’r profiad yna gyda Javan wedi bod yn werthfawr iawn.”
Cafodd Javan ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets mewn gêm Cwpan LV yn erbyn Gleision Caerdydd saith mlynedd yn ôl. Roedd rhaid iddo aros nes 2019 i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 yn erbyn Toyota Cheetahs, ac mae’r prop wedi parhau i ddatblygu ers hynny.
“Rwy’n mwynhau’r cyfleoedd dwi wedi cael yn ddiweddar ac rydw i wrth fy modd gydag arwyddo cytundeb newydd”, dywedodd Javan. “Mae gan y clwb awyrgylch bendigedig i fod yn rhan ohono, rydym wastad yn cael eu gwthio i wella ein hun a dyna beth rydw i wedi gwneud y tymor hwn.
“Mae cystadleuaeth frwd ymysg y rheng flaen. Mae gan Samson (Lee) a Werner (Kruger) profiad rhyngwladol, ac mae gweithio gyda Ben Franks wedi gwella fy ngem yn fawr. Dwi ond yn 26 mlwydd oed ac mae gen i lawer mwy i roi i’r clwb felly rwy’n edrych ymlaen at gadw datblygu fy chwarae yn y blynyddoedd i ddod.”
Sebastian ydy’r ail rheng-flaenwr i gytuno cytundeb newydd gyda’r Scarlets, yn dilyn cyhoeddiad Wyn Jones wythnos diwethaf. Mae nifer o gyhoeddiadau cytundebau i ddod dros yr wythnosau nesaf.