Josh Macleod wedi’i enwi yn gapten i’r Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Josh Macleod sydd wedi’i apwyntio fel capten y Scarlets ar gyfer tymor 2023-24.

Mae’r chwaraewr 26 oed yn cymryd yr awenau wrth Jonathan Davies.

Yn wreiddiol o Sir Benfro, roedd yn arweinydd da ar gyfer yr ail hanner o dymor diwethaf yn absenoldeb Davies trwy anaf, gan arwain y Scarlets i’r rownd gynderfynol o Gwpan Her Ewrop.

Ymddangosodd am y tro cyntaf i’r Scarlets yn 2015 ac erbyn heddiw wedi chwarae 112 o gemau i’r clwb, gan greu enw da iddo’i hun yn yr ymgyrch buddugol Pro12 yn 2016-17.

O ganlyniad iddo’i berfformiadau rhagorol yng nghrys Scarlets fe enillodd ei gap cyntaf i Gymru mis Tachwedd diwethaf a gafodd ei enw yng ngharfan ymarferol Cwpan Rygbi’r Byd cyn iddo gael ei rhyddhau o ganlyniad i anaf i’w ysgwydd.

Mae Macleod yn agos at ddychwelyd o’r anaf hynny wrth i’r Scarlets cychwyn eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Ne Affrica yn erbyn Vodacom Bulls ar y penwythnos.

“Mae’n anrhydedd enfawr i mi fel rhywun sydd wedi cael ei fagu yn y rhanbarth i fod yn gapten ar glwb gyda chymaint o hanes balch ac i ddilyn rhai o’r goreuon sydd wedi arwain y clwb fel Foxy a Ken, dau dwi wedi dysgu cymaint wrth yn ystod fy amser yma,” dywedodd.

“Mwynheais fy amser fel capten tymor diwethaf, yn enwedig yn ystod ein hymgyrch Cwpan Her lle wnaeth sawl un o’r chwaraewyr ifanc serennu yn y garfan. Roedd sawl perfformiad cryf i’w weld yn y URC hefyd.

“Mae’r bois wedi gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r ymgyrch yn Ne Affrica yn erbyn y Bulls a’r Stormers dros y pythefnos nesaf. Mae rhaid i ni adeiladu ar y gwaith o’r tymor diwethaf, o’r URC ac yn Ewrop.

“O safbwynt personol, mae fy absenoldeb o ganlyniad i lawdriniaeth ar fy ysgwydd wedi bod yn rhwystredig, ond dwi bron yn barod i ddychwelyd nawr ac yn edrych ymlaen at fod nôl ar y cae gyda’r bechgyn eto.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Josh yn chwaraewr eithriadol sydd yn arweinydd naturiol, rhywun sydd uchel ei barch ac wedi bod yn rhan hanfodol o’r garfan am sawl blwyddyn.

“Dangosodd ei sgiliau fel arweinydd llynedd wrth gymryd yr awenau wrth Foxy ar ôl iddo’i anafu ac roedd pob un ohonom yn bles gyda’i arweiniad, ar ac oddi ar y cae.

“Bydd Jon yn parhau i fod yn rhan fawr o’r tîm i arwain yma, mae ei brofiad yn y gêm yn werthfawr iawn a fydd yn help mawr i Josh, yn ogystal â’r chwaraewyr profiadol eraill yn y garfan.”