Kelly yn hapus gyda’r fuddugoliaeth

Menna Isaac Newyddion

Fe wynebodd Scarlets A, a noddir gan Juno Moneta Group, y Dreigiau yn Ystrad Mynach yn rownd olaf y grwpiau yn y Cwpan Geltaidd ar ddydd Sul, 14eg Hydref, angen buddugoliaeth i sicrhau lle yn y rownd derfynol.

Er gwaethaf wynebu colled yn erbyn Munster y penwythnos cynt fe lwyddodd y Scarlets i gipio pwynt bonws holl bwysig gan gadw’r obeithion o gyrraedd y rownd derfynol yn fyw.

Sgoriodd y Dreigiau dwy gais yn gynnar yn yr hanner cyntaf gan rhoi braw i’r Scarlets ond gwelwyd ail hanner arbennig gan y tîm o’r gorllewin i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.

Fe fydd Scarlets A yn wynebu Leinster yn y rownd derfynol penwythnos yma gyda’r lleoliad a’r amser i’w cadarnhau.

Wrth ymateb i’r gêm dywedodd Prif Hyfforddwr Scarlets A Rochard Kelly; “Ry’n ni’n hapus iawn. Ni lwyddon ni i gael y dechrau gorau ond roedden ni’n falch iawn sicrhau’r fuddugoliaeth yn y diwedd, ac ry’n ni gyd yn bles iawn.”

Wrth edrych ymlaen i’r gêm penwythnos nesaf dywedodd Kelly; “Roedd yn gêm agos iawn tro diwethaf, ac nid oedd y tywydd o’n plaid ni.

“Mae Leinster gyda’r gorau yn Ewrop ar hyn o bryd yn nhermau timau datblygu. Fe fydd yn rhaid i ni ddechrau’n well yn y gêm dros y penwythnos.”

Wrth siarad am y gystadleuaeth ar y cyfan, dywedodd; “Ry’n ni’n bles iawn gyda’r gystadleuaeth. Mae’r garfan wedi cael cyfle i weithio gyda’u gilydd dros gyfnod o amser a dod ynghyd fel grwp.”