Lansio Clwb Busnes Juno Moneta Group

Menna Isaac Newyddion

Croesawodd y Scarlets Leinster Rugby i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn 8fed Medi, 2018, ar gyfer gêm gartref cyntaf tymor 2018-19.

Roedd gêm ail rownd y bencampwriaeth yn un holl bwysig gyda’r Scarlets yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth ar ôl y siom o golli’n erbyn Ulster yr wythnos flaenorol yn y rownd agoriadol, ac wrth gwrs yn gobeithio gwneud yn iawn am y siom o golli yn erbyn Leinster ddwywaith yn rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop a rownd derfynol Guinness PRO14 ar ddiwedd tymor diwethaf.

.

Roedd gêm nos Sadwrn yr un mor gyffrous gyda’r Scarlets yn sicrhau’r fuddugoliaeth y tro hwn o flaen torf cartref arbennig.

Roedd yn noson yr un mor arbennig oddi ar y cae wrth i’r Scarlets agor Clwb Busnes Juno Moneta Group yn swyddogol.

Dadorchuddiwyd prif noddwr cit y Scarlets fel noddwr newydd y Clwb Busnes, un o’r pecynnau lletygarwch diwrnod gêm mwyaf poblogaidd yn y Parc.

Mae ein prif noddwr, Juno Moneta Group, yn deulu o gwmnîau sydd â chynllunio ariannol wrth wraidd eu busnes. Mae eu hamrywaeth o wasanaethau proffesiynol yn eang ac yn amrywiol oherwydd rhwydwaith cryf o bartneriaid proffesiynol a strategol a adeiladwyd dros y bum mlynedd diwethaf. Y ffocws gyda Juno Moneta yw gwarchod cleientiaid trwy ymagwedd annibynnol ac arloesol.

Dywedodd Nathan Brew, Pennaeth Masnachol y Scarlets: “Rydym yn falch o groesawu’n swyddogol Juno Moneta Group i’r Scarlets ac rydym yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd Louise O’Halloran, Cadeirydd a Sefydlydd Juno Moneta Group; “Mae ein cleientiaid wrth wraidd popeth a wnawn fel cwmni ac o’r cyfarfodydd cyntaf gyda’r Scarlets roeddem yn teimlo bod eu gweledigaeth yn cyd-fynd yn agos â ni.”

Mae pecynnau aelodaeth tymor 2018-19 Clwb Busnes Juno Moneta yn llawn ar hyn o bryd ond mae opsiynau lletygarwch eraill ar gael.

Am wybodaeth pellach ebostiwch [email protected]