Leinster v Scarlets: Cyhoeddiad y tîm

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Leinster yn rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop dydd Sadwrn, yn rownd gyn derfynol cyntaf y rhanbarth mewn un-ar-ddeg mlynedd.

Fe fydd y capten Ken Owens, oedd ar y fainc yn y gêm hwnnw un-ar-ddeg mlynedd yn ôl, ond ni aeth ar y cae, ac fe fydd yn arwain y tîm i’r cae dydd Sadwrn yn ei hanner canfed ymmdangosiad Ewropeaidd.

Owens, ynghyd â’r hyfforddwr ymosodol Stephen Jones, yw’r unig chwaraewyr sy’n dal ar ôl o’r garfan yna ac fe fydd yn arwain y tîm i’r cae yn Nulyn dydd Sadwrn.

Mae’r Scarlets wedi profi llwyddiant yn Stadiwm Aviva yn ddiweddar, gan godi tlws Guinness PRO12 ar ddiwedd tymor diwethaf, ac fe fyddan nhw’n gobeithio sicrhau perfformiad tebyg prynhawn Sadwrn.

Gydag anafiadau yn y tri ôl, gan gynnwys Johnny Mcnicholl a Tom Prydie, mae Pivac wedi enwi Rhys Patchell yn safle’r cefnwr gyda Steff Evans a Leigh Halfpenny ar yr asgellau. Mae Hadleigh Parkes a Scott Williams yn y canol tu ôl i Dan Jones a Gareth Davies.

Yn y pac mae’r blaenwyr rhyngwladol Rob Evans, Owens a Samson Lee yn arwain y ffordd gyda Tadhg Beirne a David Bulbring yn yr ail reng. Mae’r reng ôl profiadol o Aaron Shingler, James Davies a John Barclay yn cwblhau’r pac.

.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Mae Leinster wedi dangos trwy’r gystadleuaeth eu bod yn geffyl blaen. Fe wnaethon nhw fynd trwy’r grwp heb golli gêm.

“Mae’n mynd if od yn un o’r gemau mawr ac fe fydd yn rhaid i ni fod ar ein gorau o’r chwiban cyntaf i’r olaf. Mae e’n her arbennig ac yn un ry’n ni’n edrych ymlaen ato.”

.

.

Tîm y Scarlets i wynebu Leinster yn rownd gyn derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop, cic gyntaf 15:30;

15 Rhys Patchell, 14 Leigh Halfpenny, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 David Bulbring, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Dylan Evans, 18 Werner Kruger, 19 Lewis Rawlins, 20 Steve Cummins, 21 Aled Davies, 22 Steff Hughes, 23 Will Boyde