Llythyr agored i gefnogwyr y Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Annwyl Cefnogwr y Scarlets

Yn gyntaf, ga’i ddweud ar ran pawb yn y Scarlets pa mor hapus oeddem ni i’ch croesawu yn ôl i’r Parc nos Wener ar ôl 18 mis.

Hyfryd oedd clwyed Sosban Fach ac eich cefnogaeth yn atseinio ar draws y stadiwm ac yn well byth y bois yn gallu eich gwobrwyo gyda buddugoliaeth pwynt bonws.

Roedd yn fraint i ni groesawu yn agos at 2,500 o weithwyr y GIG a’u teuluoedd i’r gêm, ffordd i ni ddweud diolch am bopeth maen nhw wedi’i wneud i’n cymuned yn ystod pandemig. Rhyw flwyddyn yn ôl roedd Parc y Scarlets yn ysbyty brys.

Mae effaith Covid wedi bod yn sylweddol i’r Scarlets ac wedi arwain at gwym yn ein busnes yn ystod y cyfnod hwn. Bu’n rhaid i ni leihau nifer ein staff er mwyn goroesi’r pandemig ac mae recriwtio aelodau newydd o’r tîm yn parhau i fod yn her go iawn gyda’r farchnad lafur mor dynn. Mae gennym nifer o swyddi rydym yn mynd ati i recriwtio ar eu cyfer.

Er gwaethaf cynllunio a pharatoadau helaeth i groesawu cefnogwyr yn ôl, mae materion cyflenwyr wedi effeithio arnom ac fe effeithiodd yn uniongyrchol arnom cyn gêm URC gartref gyntaf yr wythnos diwethaf yn erbyn y Emirates Lions. Er enghraifft, dim ond wythnos cyn y gêm y derbyniwyd ein dosbarthiad stoc tocynnau tymor, a roddodd bwysau aruthrol ar dîm y swyddfa docynnau i argraffu a phecynnu’ch tocynnau tymor i’w derbyn cyn dydd Gwener diwethaf. Rydym yn hynod ddiolchgar i aelodau ein Grŵp Cefnogwyr am wirfoddoli a rhoi eu hamser i’n helpu gyda’r dasg hon.

Rydym yn parhau i weithio’n hynod o galed i ddod â’n gweithrediadau stadiwm yn ôl i’r arfer ar ôl hiatws 18 mis. Rydym yn ymwybodol nad oedd elfennau o’r diwrnod yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir. Rydym yn dibynnu’n fawr ar weithwyr achlysurol; mae’r rhain i gyd newydd eu recriwtio ac i lawer dyma eu profiad cyntaf mewn amgylchedd gwaith.

Fel bob amser, rydym wedi ymrwymo i roi’r profiad gorau posibl i’n cefnogwyr ffyddlon a byddwn bob amser yn ceisio gwella wrth i ni ailadeiladu ein gweithrediadau yn ofalus. Rydym bob amser yn ddiolchgar am eich adborth a byddwn yn gweithio i barhau i wella ein prosesau.

Diolch i chi am eich amynedd parhaus, ac yn bwysicaf oll am eich cefnogaeth barhaus.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar ddydd Sul ar gyfer gêm Munster.

Diolch i chi gyd

Phil Morgan (Prif Swyddog Gweithredol)