Macleod i gapteinio yn Nhreviso ddydd Sadwrn yma

Menna Isaac Newyddion

Ar ôl seibiant cymeradwy i’r bechgyn. maen nhw’n dychwelyd i wynebu Benetton, am eu gwrthdrawiad nesaf Guinness PRO14 yn Stadio Monigo, dydd Sadwrn 16eg o Chwefror, CG 17:15 (GMT). Bydd Josh Macleod yn cymryd capteiniaeth ar ddydd Sadwrn.

Ar hyn o bryd mae Benetton, yn sefyll yn yr ail safle yng Nghynhadledd B, gyda Leinster yn dal i amddiffyn eu lle ar y brig. Mae’r ddau ryngwladol, Rhys Patchell a Steff Evans wedi’u rhyddhau o wersyll Chwe Gwlad Cymru yr wythnos hon. Mae Patchell, yn cymryd ei lle ar y fainc, gyda Evans ar yr adain chwith yn rhif 11.

Ni ystyriwyd Leigh Halfpenny ar gyfer y gêm yn erbyn Benetton, y penwythnos hwn. Er bod Leigh, wedi dychwelyd i hyfforddiant llawn, penderfynwyd ar y cyd y dylai barhau i hyfforddi’n llawn gyda’r gobaith y bydd ar gael i’w ddethol yn y dyfodol agos.

Wrth edrych ar hanes ei dîm gyda’r gwrthblaid cyn gêm y penwythnos hwn, dywedodd prif Hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac: “Maen nhw’n ochr well, y llynedd yn yr un ffenestr amser wnaethant ein curo. Mae ganddynt ochr fwy gyda ychydig o chwaraewyr ychwanegol yn ychwanegu ychydig o sbardun i’r gêm. Mae ychydig o asgellwyr da ar y tu allan yn rhoi ychydig o rym iddynt. Hefyd, cyflymder; mae eu lefelau ffitrwydd wedi gwella, maen nhw’n chwarae rygbi llawer mwy, gan ddefnyddio’r bêl yn llawer mwy, maen nhw’n mynd i fod yn fygythiad mawr!”.

“Mae ganddynt rai dynion mawr, fel y gwelsom yn gynharach y tymor hwn roedden nhw’n ddyn i lawr ac fe wnaethant achosi llawer o broblemau i ni. Maent yn chwarae’n uniongyrchol ar adegau ac yna’n symud y bêl o gwmpas weithiau, felly maen nhw’n gofyn ychydig o gwestiynau i’r amddiffyniad. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn dod â llawer o sgil ffisegol i’r gêm hon a mwy o’r hyn yr ydym wedi bod yn ei weld yn y Chwe Gwlad.”.

Wrth sôn am brawf anafiadau Pivac, aeth ymlaen i ddweud: “Mae gennym ychydig o nol, sy’n bleserus. Mae Lewis Rawlins nol o fewn ymarferion ac yn rheoli pob agwedd ddoe yn dda ac felly fe ddaeth trwy ei anaf ac felly mae ar gael i’w ddewis, sy’n helpu Blubring, sydd wedi cael ei anafu ers gêm Leinster, gan roi tri rhes ail ffit i ni. Bu Will Boyde nôl yn  hyfforddiant gyda ni a hefyd Uzair Cassiem yn rhedeg yn dda ddoe. Mae hyn yn rhoi opsiwn arall i ni ar ôl Ed Kennedy wedi codi rhywfaint o drafferth gyda’i llinyn y goes, sydd wedyn yn rhoi 3 ffit o flaenwyr rydd i ni.”.

Esboniodd Pivac, ei feddyliau ar Tabl y PRO14: “Mae’n gyffrous, byddem yn llawer iawn hapusach lle’r oeddem ni’r tro hwn y llynedd, ond nid ydym ni a dyna realiti. Mae gennym bedwar tîm yn mynd yn galed i gael dau slot yn realistig ac rwy’n credu mai dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r pedwar tîm hynny. Mae pob gêm bellach yn un hanfodol ac mae’n rhaid i ni ymladd dros bob pwynt. P’un ai yw hynny’n ychwanegol yn sgorio cais a cael 5, neu i ddod o fewn 7 a chael un. Bydd pob pwynt yn hanfodol pan fyddwn ar ddiwedd y tymor.”.

Aeth ymlaen i roi sylw: “Rydyn ni’n gwneud llawer o bethau’n iawn, rydym yn gwella fel grŵp ac rydym yn chwarae heb lawer o enwau mawr ac yn cael ein hunain mewn safle lle gallwn ni ennill y gemau hyn. Nid ydym ymhell i ffwrdd, credwn a allwn ni gronni digon o bwyntiau dros y 3 wythnos nesaf, gallwn gael rhai o’r bechgyn mawr yn ôl; rhai o’r bechgyn a anafwyd yn ôl ac mae gennym redeg eithaf da yn ystod y mis diwethaf.”.

.

Tîm y Scarlets i wynebu Benetton yn Stadio Monigo, dydd Sadwrn 16eg Chwefror, cic gyntaf 17:15 (GMT):

15 Johnny McNicholl, 14 Ioan Nicholas, 13 Kieron Fonotia, 12 Paul Asquith, 11 Steff Evans, 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy, 1 Phil Price, 2 Marc Jones, 3 Werner Kruger, 4 Josh Helps,

5 Tom Price, 6 Josh Macleod ©, 7 Dan Davis, 8 Uzair Cassiem

Eilyddion:

16 Dafydd Hughes, 17 Dylan Evans, 18 Simon Gardiner, 19 Lewis Rawlins, 20 Will Boyde, 21 Jon Evans, 22 Rhys Patchell, 23 Steff Hughes

Anafiadau

James Davies – troed, Tom Phillips – Llinyn y goes, Steve Cummins – Ysgwydd, Blade Thomson – Cyfergyd, Angus O’Brien – Pen-glin, Aaron Shingler – Pen-glin,

Taylor Davies – Llinyn y goes, Ryan Conbeer – Pigwrn, Ed Kennedy – Llinyn y goes,

David Bulbring – Pigwrn/ Pen-glin, Corey Baldwin – Pigwrn, Leigh Halfpenny – Cyfergyd

.