Un o dalentau ifanc mwyaf Cymru, Macs Page, sydd wedi arwyddo ei gytundeb hŷn gyntaf gyda’r Scarlets, gan raddio o’r Academi hŷn.
Mae’r chwaraewr 20 oed wedi mwynhau tymor cofiadwy ym Mharc y Scarlets, gan ymddangos 13 o weithiau i’r tîm cyntaf a chroesi am dri chais arbennig – gan gynnwys yr ymdrech unigol yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Munster.
Yn wreiddiol o Sir Benfro, cychwynnodd ei daith rygbi gyda thîm ieuenctid Abergwaun cyn symud i dîm ieuenctid Crymych. Yn gyn disgybl yn Ysgol y Preseli roedd yn rhan o Academi Clwb Pel droed Abertawe cyn ymrwymo i rygbi.
Wedi’i hamlygu fel chwaraewr addawol iawn, derbyniodd y canolwr cytundeb Academi’r Scarlets yn 2021 ac mae wedi mynd ymlaen i serennu i dîm dan 20 Cymru ym Mhencampwriaethau’r Chwe Gwlad a’r Byd, gan sgorio hat-tric yn erbyn Awstralia yn y twrnamaint byd-eang yr haf diwethaf.
Dywedodd Macs: “Dwi wrth fy modd i arwyddo fy nghytundeb proffesiynol cyntaf. Wrth dyfu i fyny, fy mreuddwyd oedd chwarae i’r Scarlets a dwi wedi bod digon ffodus i gael y cyfle hynny dros y tymor diwethaf a nawr i fod yn rhan o’r garfan.
“Ni allai’r tymor fod wedi mynd llawer gwell i mi yn bersonol, dwi’n lwcus iawn i wedi cael y cyfleoedd ac wedi gallu croesi’r llinell gais cwpl o weithiau hefyd.
“Rydym yn garfan ifanc gyda llawer o botensial. Mae’r tymor yn bell o drosodd a dwi’n edrych ymlaen at weld beth allwn gyflawni dros y blynyddoedd i ddod.
“Os fydde rhywun wedi dweud wrth y plentyn chwe blwydd oed oedd yn chwarae rygbi tag yn Abergwaun y bydd yn chwarae yn rhan o garfan y Scarlets un dydd, bydde fe wrth ei fodd!”
Dywedodd Dwayne Peel: “Pan welon ni Macs am y tro cyntaf yn ei arddegau roedd yn amlwg bod ganddo dalent a llawer o botensial ac mae’n wych i weld ei fod wedi cymryd bob cyfle dros y tymor hwn.
“Mae Macs yn chwaraewr sydd gyda’r ‘X-factor’ ac yn gallu cyfrannu at ddigwyddiadau mawr mewn gêm. Er iddo fod yn ifanc mae Macs yn parhau i weithio’n galed i wella’i gêm, yn benderfynol i lwyddo ac rwy’n siŵr bydd cefnogwyr y Scarlets yn edrych ymlaen at weld ei ddatblygiad yn y crys dros y blynyddoedd i ddod. Rydyn ni wrth ein bodd i gael chwaraewr lleol gyda dyfodol disglair yn arwyddo’i gytundeb hyn cyntaf.”
Macs yw’r cyntaf o nifer o gyhoeddiadau cytundebau i’w wneud dros yr wythnosau nesaf.
Diolch enfawr i Crys 16 am gefnogi Macs y tymor yma.