“Mae’n siomedig ond fe newn ni ddysgu o’r canlyniad,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Roedd gêm agoriadol y Guinness PRO14 yn Stadiwm Kingpsan yn gêm llawn tensiwn wrth i’r Scarlets golli o drwch blewyn i’r tîm cartref Ulster.

Daeth unig gais y prynhawn yn y munudau agoriadol wrth i’r maswr Rhys Patchell groesi am gais cyffrous ond y mewnwr John Cooney a sgoriodd holl bwyntiau’r tîm cartref.

Wrth ymateb i’r gêm dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Doedden ni ddim yn disgwyl rygbi perffaith yn y rownd agoriadol. Ni welwyd rygbi arbennig gan y naill dîm na’r llall, roedd yna lot o gamgymeriadau ond fe wnaethon ni’r camgymeriadau costus.

“Fe wnaethon ni son yn ystod hanner amser am gadw yn y gêm. Ar y blaen o 13-12 ac yn 22ain Ulster gyda ryw bedair munud i fynd roeddwn i’n teimlo ein bod ni a digon o gyfle i sicrhau’r fuddugoliaeth.

“Cadw’r bêl yn ein dwylo oedd y neges ond fe wnaethon ni benderfynu cicio. Fe ddaethon nhw’n ôl ato ni a chael cic gosb arall a gwneud digon i ennill y gêm.”

Roedd y gôl gosb yna yn y munudau olaf yn ddigon i ennill y gêm a thorri calonnau’r Scarlets ar yr un pryd.

Aeth Pivac ymlaen i ddweud; “Fe wnaethon ni amddiffyn yn gymharol dda trwy gydol y gêm. Ni wnaethon nhw ymosod y linell mewn gwirionedd. Fe wnaethon ni dalu’r pris am gicio’r bêl.”

Tynnodd y canolwr Jonathan Davies allan o’r tîm yn sydyn cyn y gêm gan ychwanegu i restr anafiadau’r Scarlets. Wrth ymateb i hynny dywedodd Pivac; “Mae pob tîm yn dioddef anafiadau. Roedd y tîm oedd gyda ni allan yna heddiw yn ddigon da i ennill y gêm.

“Mae’r pwyntiau yn holl bwysig er gwaetha’r ffaith mai’r rownd agoriadol yw hi. Mae’n siomedig iawn ond fe newn ni ddysgu.”   Fe fydd y Scarlets yn croesawu Leinster i Barc y Scarlets ar nos Wener 8fed Medi, cic gyntaf 19:35.