Manylion llawn am dynnu enwau Cwpan Pencampwyr Heineken

Rob Lloyd Newyddion

Bydd y broses o dynnu enwau ar gyfer ‘knockout stages’ o Gwpan Pencampwyr Heineken 2020-21 a’r Cwpan Her yn cymryd lle yn Lausanne, Y Swistir ar ddydd Mawrth, 9fed o Fawrth.

Mae’r digwyddiad, sydd yn dechrau am 12:00 (amser DU & Iwerddon), yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.heinkenchampionscup.com a fydd y broses tynnu enwau am y rownd o 16 a rowndiau’r wyth olaf o’r Cwpan Her i’w ddilyn yn syth ar ôl gan dynnu enwau am rowndiau’r 16 olaf a rownd yr wyth olaf i Gwpan Pencampwyr Heineken am tua 12:20.

O ran tynnu enwau am y rownd o 16 Cwpan Pencampwyr Heineken, ni fydd clybiau o’r un gynghrair yn cael chwarae yn erbyn ei gilydd, er hyn, mae clybiau o’r un pool yn cael cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Gan fod Racing 92, Bordeaux-Bègles, Leinster Rugby, Munster Rugby a Wasps wedi ennill gemau pool ar y cae – hynny yw, lle nad oedd Covid-19 wedi effeithio canlyniad y gêm – fydd y clybiau hynny yn sicr o chwarae gêm gartref yn ystod y rownd o 16.

Bydd y broses o dynnu enwau ar gyfer rownd yr wyth olaf am y ddau dwrnamaint yn agored gan alluogi clybiau o’r un gynghrair i chwarae yn erbyn ei gilydd.

KNOCKOUT STAGE QUALIFIERS

Cwpan Pencampwyr Heineken – Racing 92, Leinster Rugby, Wasps, Bordeaux-Bègles, Munster Rugby, Lyon, Toulouse, La Rochelle, Scarlets, ASM Clermont Auvergne, Bristol Bears, Exeter Chiefs, Edinburgh Rugby, Gloucester Rugby, RC Toulon, Sale Sharks

O.N Racing 92, Leinster, Wasps, Bordeaux-Bègles a Munster yn sicr o chwarae gêm gartref yn ystod y rownd o 16.

DYDDIADAU ALLWEDDOL EPCR Tynnu enwau’r ‘Knockout Stage’: Dydd Mawrth, 9fed o Fawrth Rowndiau o 16: Ebrill 2/3/4 Yr Wyth Olaf: Ebrill 9/10/11 Rownd Cyn-Derfynol: Ebrill 30 – Mai 1/2 Rownd Derfynol Cwpan Her: Marseille – Dydd Gwener, Mai 21 Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Heineken: Marseille – Dydd Sadwrn, Mai 22