Manylion teithio rownd gyn derfynol Guinness PRO14

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Glasgow yn rownd gyn derfynol Guinness PRO14 ar ôl buddugoliaeth arbennig dros y Cheetahs ym Mharc y Scarlets.

Ry’n ni’n falch iawn cadarnhau manylion taith swyddogol cefnogwyr y Scarlets i Glasgow i gefnogi’r tîm.

Taith yn cynnwys;

    • Trafnidiaeth bws o Barc y Scarlets, gadael am 5am Gwener 18fed Mai
  • 2 noson gwely a brecwast
  • Trafnidiaeth i’r gêm
    • Dychwelyd ar ddydd Sul 20fed Mai, gan obeithio cyrraedd nôl ym Mharc y Scarlets tua 8pm
  • £189 y pen, wedi selio ar dau berson yn rhannu ystafell
  • Nid yw’r pris yn cynnwys tocyn gêm

Am wybodaeth pellach ebostiwch [email protected]