Mae’r Scarlets yn falch i gadarnhau dychweliad cefnogwyr i Barc y Scarlets ar gyfer ein gêm gyfeillgar yn erbyn Nottingham ar ddydd Sadwrn, Medi 4ydd, 2021 (cic gyntaf 14:30).
Bydd deiliaid tocyn tymor sydd yn barod wedi prynu neu adnewyddu eu tocynnau cyn y 4ydd o Fedi ar gyfer tymor 2021-22 yn gallu hawlio tocyn am ddim i’r gêm yn ystod ffenest 48 awr sy’n dechrau ar ddydd Llun, Awst 16 am 10yb.
Bydd tocynnau yn mynd ar werth ar ddydd Mercher, Awst 18 am 10yb ar werthiant cyffredinol, £10 i oedolion a £5 i blant.