Mcnicholl yn dychwelyd ar gyfer rownd gyn derfynol

Kieran Lewis Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Glasgow yn rownd gyn derfynol Guinness PRO14 nos Wener yn Stadiwm Scotstoun gyda’r rhanbarth yn gobeithio sicrhau lle yn y rownd derfynol er mwyn brwydro i gadw’r tlws ar ddiwedd y bencampwriaeth.

Sicrhaodd Glasgow, ceffyl blaen Adran A, gêm gartref yn y rownd gyn derfynol ar ôl gorffen ar y brig ar ddiwedd y tymor arferol.

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Glasgow ar ôl sicrhau buddugoliaeth dros y newydd-ddyfodiaid Cheetahs yn y rownd go-gyn derfynol ac yn sicr yn gobeithio dilyn y llwybr i’r rownd derfynol yn Nulyn unwaith eto.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi enwi tîm gref ar gyfer y gêm gyda chwaraewyr rhyngwladol yn y pac yn ogystal â’r linell gefn.

Gyda Leigh Halfpenny yn absennol oherwydd anaf, a ddioddefodd i linyn y gâr yn y rownd go gyn derfynol, daw Johnny Mcnicholl, yn amserol iawn, yn ôl o’i anaf e fi gymryd lle Halfpenny yn safle’r cefnwr.

Mae dau newid i’r pac yn gweld Aaron Shingler yn dychwelyd i’r XV cychwynol sy’n gorfodi Tadhg Beirne yn ôl i’r ail reng a Lewis Rawlins i’r fainc.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac; “Mae gan Glasgow record da iawn adref. Maent yn chwarae ar arwyneb gwahanol y maen nhw wedi arfer ag ef ac oherwydd hynny efallai bod ychydig o fantais ganddyn nhw, ond mae’n 80 munud o rygbi cystadleuol. Ry’n ni’n teimlo ein bod ni mewn lle gymharol dda.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr. Mae gyda ni lot o barch at Glasgow yn amlwg, mae ganddynt dîm hyfforddi da, chwaraewyr arbennig a record gartref gret. Mae’n addo bod yn gêm a hanner. Mae’r ddau dîm yn hoffi chwarae, defnydd lled y cae ac mae hynny’n sicr o greu gêm dda.

“Mae’r bois yn mwynhau gemau fel hyn. Byddwn ni’n mynd yno gyda’r meddylfryd bod angen i ni sicrhau’r perfformiad gorau posib er mwyn bod ar ochr cywir y canlyniad.”

Tîm y Scarlets i wynebu Glasgow yn rownd gyn derfynol y Guinness PRO14, Stadiwm Scotstoun, Gwener 18fed Mai;

15 Johnny Mcnicholl, 14 Tom Prydie, 13 Scott Williams, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Rhys Patchell, 9 Gareth Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Tadhg Beirne, 5 Steve Cummins, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion; Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Will Boyde, Jonathan Evans, Dan Jones, Steff Hughes