Y Scarlets bydd yn herio’r Hollywoodbets Sharks ym Mharc y Scarlets ar nos Wener (19:35; BBC Wales), gan ddangos un newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Caeredin penwythnos diwethaf.
Nid yw’r Albanwr Alex Craig ar gael oherwydd anaf llinyn y gar felly mae Morgan Jones yn dod i mewn i herio’r dynion o Durban.
Mae undeg saith aelod o’r garfan o 23 chwaraewr wedi datblygu trwy lwybr datblygu’r Scarlets.
Mae tri ohonyn nhw, Ioan Nicholas, Tom Rogers a Tomi Lewis yn parhau yn y tri ôl. Johnny Williams ac Eddie James sydd yng nghanol cae, gyda Sam Costelow a Gareth Davies wedi’u henwi fel ein haneri.
Enwir y prif hyfforddwr rheng flaen ryngwladol gyda Kemsley Mathias, y capten Ryan Elias a Sam Wainwright yn parhau i gydweithio, wrth i’r chwaraewr 24 oed Jones ymuno â Sam Lousi yn yr ail reng.
Mi fydd hi’n ddiwrnod i’w gofio i deulu Taine Plumtree wrth iddo gael ei enwi fel blaenasgellwr y Scarlets gyda’i dad John yn hyfforddi’r Siarcod. Dan Davis a Vaea Fifita sydd yn cwblhau’r rheng ôl.
Mae yna sawl newid ymysg yr eilyddion gyda’r prop Steff Thomas a’r mewnwr Kieran Hardy yn dod ymlaen i’r fainc.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Yn amlwg i ni wedi siomi gyda’r canlyniad yn erbyn Caeredin penwythnos diwethaf yn enwedig ar ôl bod ar y blaen ar hanner amser. Siaradais am chwarae’n rhydd a dangos ychydig o dân ac roedd agweddau o hynny yn ein gêm. Mae rhaid i ni aros yn y frwydr am yr 80 munud. Wythnos yma, i ni wedi paratoi ar gyfer fersiwn gorau’r Siarcod, sydd gyda’r gallu i ddod mas â phac Springbok a fydd hynny yn her enfawr ond yn un gyffrous hefyd. Mae chwarae ochr De Affrig yn her gorfforol ac mae rhaid camu i fyny ar y sialens yna.”
Tîm y Scarlets i chwarae Hollywoodbets Sharks ym Mharc y Scarlets ar Ddydd Gwener, Ebrill 26 (19:35; BBC Wales)
15 Ioan Nicholas; 14 Tom Rogers, 13 Johnny Williams, 12 Eddie James, 11 Tomi Lewis; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias (capt), 3 Sam Wainwright, 4 Morgan Jones, 5 Sam Lousi, 6 Taine Plumtree, 7 Dan Davis, 8 Vaea Fifita.
Eilyddion: 16 Shaun Evans, 17 Steff Thomas, 18 Harri O’Connor, 19 Jac Price, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Ryan Conbeer
Chwaraewyr sydd ddim ar gael oherwydd anaf
Alex Craig, Wyn Jones, Ioan Lloyd, Steff Evans, Joe Roberts, Jarrod Taylor, Josh Macleod, Teddy Leatherbarrow, Isaac Young, Jac Davies.