Morgan MacRae wedi’i enwi yng ngharfan 7 bob ochr Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Bachwr Academi’r Scarlets Morgan MacRae wedi’i enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres HSBC 7 Bob Ochr y Byd.

Gwnaeth y myfyriwr Prifysgol Abertawe sy’n 19 oed gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn gêm ddatblygedig yr Hydref yn erbyn y Dreigiau a’r Gweilch.

Y prif hyfforddwr Richie Pugh sydd wedi enwi 13 chwaraewr yn y garfan sy’n gymysg o brofiad ac ieuenctid, gyda’r ddwy gêm agoriadol yn cael eu cynnal ym Malaga a Seville.

Hefyd wedi’u henwi yn y garfan mae’r cyn Scarlet Luke Trehane a Morgan Williams.

“Nid yw bythefnos o baratoi yn lawer wrth fynd i mewn i’r gyfres ond mae’r profiad wedi bod yn bositif mor belled ag rwy’n hapus iawn i gwblhau’r dewis,” dywedodd Pugh.

“Mae’n wych i weld Cymru nôl yng Nghyfres y Byd, rhyfedd iawn oedd gweld tîm Prydain yn ein cynrychioli’r llynedd – mae’n wych i gael y tair pluen nôl yn y gystadleuaeth ac yn grêt i ddatblygiad y bois.”

Cafodd Pugh ei annog gan baratoadau’r garfan estynedig a oedd yn golygu nad oedd dewis y garfan i’r gyfres yn benderfyniad rhwydd.

“I fod yn onest roedd gwneud y dewisiadau yn ben tost – ond mae hynny’n ffactor bositif. Derbyniwn ryw 19 chwaraewr o’r rhanbarthau, rhai sydd wedi’u gwahodd a rhai craidd sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen yn y gorffennol ac wedi creu argraff,” ychwanegodd Pugh.

Bydd Cymru yn gwynebu Ffrainc, Kenya a Canada yn Pool D ym Malaga.

Carfan Saith Bob Ochr Cymru i Sbaen – HSBC World Rugby Sevens Series, Malaga – Ion 21-23

1 Lloyd Evans (Aberavon), 2 Callum Carson (Ospreys), 3 Frankie Souto (Dragons), 4 Morgan MacRae (Scarlets), 5 Tom Brown (Wales 7s), 6 Luke Treharne (Wales 7s), 7 Arthur Lennon (Speranza 7s), 8 Tom Williams (Wales 7s), 9 Morgan Williams (Wales 7s), 10 Owen Jenkins (Dragons), 11 Lloyd Lewis (Wales 7s / Pontypool), 12 Ewan Rosser (Dragons), 13 Cole Swannack (Speranza 7s)