Naw Scarlet yng ngharfan Menywod Cymru ar gyfer gêm dydd Sul

Kieran Lewis Newyddion

Mae Menywod Cymru yn croesawu wynebau cyfarwydd yn ôl i’r garfan ar gyfer y gêm fawr yn Stadiwm Principality bore Sul yn erbyn yr Eidal (11:45).

Daw’r asgellwraig Jaz Joyce i mewn i’r tîm am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth ar ôl iddi fod yn rhan o baratoadau’r tîm saith bob ochr ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia mis nesaf.

Jess Kavanagh-Williams yw’r unig chwaraewr yn y tri ôl sy’n cadw ei lle o’r tîm a wynebodd Iwerddon yn Nulyn gyda Hannah Jones yn dechrau yn safle’r cefnwr a Joyce ar yr asgell dde.

.

Tîm Menywod Cymru i wynebu’r Eidal:

15 Hannah Jones (Scarlets) 14 Jaz Joyce (Scarlets) 13 Kerin Lake (Gweilch) 12 Robyn Wilkins (Gweilch) 11 Jess Kavanagh-Williams (RGC) 10 Elinor Snowsill (Dreigiau) 9 Keira Bevan (Gweilch) 1 Caryl Thomas (Scarlets) 2 Carys Philips (c) (Gweilch) 3 Amy Evans (Gweilch) 4 Siwan Lillicrap (Gweilch) 5 Mel Clay (Gweilch) 6 Alisha Butchers (Scarlets) 7 Beth Lewis (Scarlets) 8 Sioned Harries (Scarlets)

Eilyddion: 16 Kelsey Jones (Y Gweilch) 17 Gwenllian Pyrs (RGC) 18 Meg York (Dreigiau) 19 Natalia John (Y Gweilch) 20 Nia Elen Davies (Scarlets) 21 Jade Knight (Scarlets) 22 Alecs Donovan* (Y Gweilch) 23 Lisa Neumann (Scarlets)