Newidiadau wrth i Gymru wynebu De Affrica

Rob Lloyd Newyddion

Yn dilyn y fuddugoliaeth 23-5 yn erbyn Japan, mae saith newid i’r tîm i ddechrau yn erbyn De Affrica ar Ddydd Sadwrn (12:15yp, Parc yr Arfau) wedi’u wneud gan prif hyfforddwr Ioan Cunningham o flaen yr ail Prawf o’r Hydref.

Yn y rheng flaen, mae gwynebau newydd gyda Gwenllian Pyrs, Carys Phillips a Cerys Hale yn cychwyn. Georgia Evans sy’n symud i’r ail reng ac Alisha Buchers yn dechrau fel blaenasgellwr.

Tu ôl i’r sgrym, Ffion Lewis (yn y llun) sy’n dod i mewn fel mewnwr i bartneri â Elinor Snowsill, Niamh Terry yn dechrau fel cefnwr a Caitlin Lewis sydd yn dod i mewn ar yr asgell chwith.

Dywedodd Cunningham: “Roedd hi’n bwysig i wobrwyo’r chwaraewyr a chafodd effaith ar y gêm penwythnos diwethaf trwy rhoi cyfle iddyn nhw ddechrau’r gêm yma. Rydym hefyd wedi ystyried yr amser byr rhwng chwarae ar nos Sul ac amser cinio Dydd Sadwrn, gan feddwl mae gennym Prawf arall penwythnos nesaf.

“Mae Jazz Joyce i ffwrdd gyda charfan GB wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Dubai 7s ond mae hynny’n golygu rhoi cyfle i Niamh Terry i ddechrau ar ôl ymarfer yn dda ac yn erbyn y Black Ferns. Mae ein paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn cynnwys yr holl garfan, mae yna gystadleuaeth da yn ein grwp ac rwy’n hyderus dyma’r chwaraewyr cywir ar gyfer yr her yn erbyn De Affrica, yn enwedig yn gorfforol.

Mae tocynnau ar gael yma www.wru.wales/waleswomen

Menywod Cymru v De Affrica
15 Niamh Terry (Exeter Chiefs); 14 Lisa Neumann (Sale Sharks), 13 Hannah Jones (Gloucester-Hartpury), 12 Kerin Lake (Gloucester-Hartpury), 11 Caitlin Lewis (Gloucester-Hartpury); 10 Elinor Snowsill (Bristol Bears), 9 Ffion Lewis (Worcester Warriors); 1 Gwenllian Pyrs (Sale Sharks), 2 Carys Phillips (Worcester Warriors), 3 Cerys Hale (Gloucester-Hartpury), 4 Natalia John (Bristol Bears), 5 Georgia Evans (Saracens), 6 Alisha Butchers (Bristol Bears), 7 Bethan Lewis (Gloucester-Hartpury), 8 Siwan Lillicrap (Capt, Bristol Bears) 

Eilyddions: 16 Kat Evans (Saracens), 17 Caryl Thomas (Worcester Warriors), 18 Donna Rose (Saracens), 19 Gwen Crabb (Gloucester-Hartpury), 20 Alex Callender (Worcester Warriors), 21 Keira Bevan (Bristol Bears), 22 Robyn Wilkins (Gloucester-Hartpury), 23 Megan Webb (Bristol Bears).