Newyddion diweddaraf ar gêm Cwpan Pencampwyr yn erbyn Bryste

Rob Lloyd Newyddion

Gyda llawer o ddyfalu ynghylch penderfyniad am ein gêm Cwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Bristol Bears, fe all y Scarlets cadarnhau bod heb law am y 32 o chwaraewyr sy’n hunanynysu ym Melffast, mae gennym 14 chwaraewr ffit yn hyfforddi ym Mharc y Scarlets.

Mae saith o’r 14 yna yn rhan o’r garfan hŷn, gyda’r saith chwaraewr arall ar gytundebau datblygedig.

Gyda Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod rhaid i’r garfan a dychwelodd o Dde Affrica hunan ynysu am 10 diwrnod mewn gwesty tu allan i Belffast, mae’r Scarlets yn annog i drefnwyr y twrnamaint EPCR i ailfeddwl ei safle ar aildrefnu gemau.

Mae rheoliadau cystadleuaeth Cwpan Pencampwyr yn eglurhau os nag yw’r Scarlets yn gallu cyflawni eu gêm rownd un, bydd hyn yn golygu i’r gêm gael ei hepgor a’r sgôr wedi’i nodi fel 28-0 i Fryste.

Mae’r Scarlets yn dod mas o’u cyfnod hunan ynysu ar Ddydd Gwener, Rhagfyr 10 – diwrnod cyn y gêm yn erbyn Bristol Bears – ac os nad ydyn am chwarae un o’r 32 chwaraewr sydd ym Melffast ar hyn o bryd, bydd angen i ni ffeindio naw chwaraewr ychwanegol, yn bennaf o’r academi a chlybiau eraill i gael 23 chwaraewr yn barod.

“Os ydym am chwarae Bryste heb y bobl sydd yn Ulster ar hyn o bryd mae yna pedwar neu pump safle lle nad oes gennym chwaraewr i lenwi’r bwlch,” dywedodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets Simon Muderack.

“Nad ydym yn dod allan o gwarantin tan 10fed o Rhagfyr ac fydd llawer o’r bois ym Melffast heb chwarae gêm o rygbi ers Hydref 22. Mae angen i EPCR edrych ar lles ein chwaraewyr yn y sefyllfa yma.

“Heb y 32 o chwaraewyr yng nghwarantin, bydd rhaid i ni chwarae chwaraewyr datblygedig ac academi – gyda rhai ohonyn nhw yn eu tymor cyntaf o rygbi ar ôl gorffen ysgol – ynghyd chwaraewr sy’n chwarae rygbi wrth ochr ei gwaith llawn amser a’u rhoi nhw yn erbyn tîm o safon fel Bryste. Ni fydd hynny’n beth da er tegwch y gystadleuaeth ac y chwaraewyr.

“Nad oedd un ohonom yn gallu rhagweld y sefyllfa yma yn Ne Affrica, a’r DU yn ei rhoi ar y rhestr goch. Mae’r URC yn gynghrair newydd ac rydym yn dilyn dyheadau’r gynghrair trwy danfon ein tîm gorau posib i Dde Affrica er mwyn perfformio’r gorau y gallwn. Mae hynny o ganlyniad i’r clwb wneud y peth iawn o ran y gynghrair ac o ran rygbi.

“Nad yw ein cosbi am hyn yn gwneud synnwyr i mi ac mae angen ffeindio ateb teg achos nad yw fforffedu’r gêm am rhywbeth sydd allan o’n rheolaeth yn deg.

“Yn ddelfrydol, byddem wedi cael eithriad chwaraeon sydd wedi’i wneud yn y gorffenol, tra’n parhau i hunan ynysu, a gallu parhau i ymarfer a paratoi ar gyfer y gemau i ddod.

“Ar hyn o bryd, y gorau mae’r chwaraewyr yn gallu gwneud yn y gwesty ym Melffast yw gwneud ymarfer corff yn unigol yn eu ystafelloedd a mynd tu fas am wâc am gyfnod byr yn y maes parcio.

“Nad yw hynny yn ddigon i baratoi ar gyfer gêm o ddwysedd uchel. Ym myd rygbi, capasiti corfforol sy’n holl bwysig, os nad yw’r chwaraewyr ar eu lefel corfforol gorau fe all hyn fod yn drychinebus i yrfaoedd ac yn risg o anaf.

“Mae gan y Scarlets hanes balch yn y gystadleuaeth Ewropeaidd ac rydym wedi edrych ymlaen at brofi ein hun yn erbyn dau ochr sydd wedi lefelu’n erbyn rhai o’r gorau ar y cyfandir yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n siomedig iawn ni fyddwn yn gallu cyrraedd y lefel hynny ar y cae.”