O’r Stafell Wasg: Dwayne yn siarad gyda’r cyfryngau

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Dwayne Peel gyda’r wasg o flaen gêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yng Nghaeredin.

Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud…

Mae yna newid wedi’i wneud i’r capten, alli di esbonio pam?

DP: “Mae Ken wedi gwneud swydd arbennig am saith mlynedd. Mae ei natur fel Scarlet balch, gwr Gorllewin balch, yn golygu ei fod yn arweinydd da ac yn gallu arwain o fewn unrhyw gapasiti. Roedd yna elfen o angen adnweyddu pethau ond hefyd i Ken allu mwynhau’r cyfnod olaf o’i yrfa yma. Rydym i gyd eisiau’r gorau i Ken Owens ar y cae ac ro’n i’n teimlo mae nawr oedd yr amser gorau iddo ganolbwyntio ar ei hun i wneud yn siwr bod ei gorff yn iawn ac ei fod gallu mwynhau. Mae Ken a Jon wedi bod yn ddylanwad ffantastig i ni. Y peth mwyaf am Jon yw ei fod hefyd yn dilyn wrth esiampl ar ac oddi ar y cae, mae ei foeseg gwaith yn fanwl, ac yn broffesiynol iawn yn ei waith, mae ganddo farn cryf am y gêm ac yn falch iawn o fod yn Scarlet, ac mae hynny i fi yn bwysig. Mae’n falch i gynrychioli’r rhanbarth lle cafodd ei fagu.”

Sut mae’r wythnos wedi bod wrth edrych ymlaen at ddechrau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig penwythnos yma? 

DP: “Mae yna llawer o gyffro o fewn y grwp. Ar ddydd Llun, roedd hi’n amlwg roedd newid yn yr awyr. Roedd y mwyafrif o chwaraewyr yn falch i weld y diwedd o ymarferion cyn-dymor a dechrau gemau cystadleuol eto. Mae’r nawr wythnos diwethaf wedi bod yn hir ac ar ôl yr holl waith caled, mae’r bois yn edrych ymlaen at chwarae.”

Beth yw’r diweddaraf o ran anafiadau?

DP: “Does dim llawer o newid. Rydym yn gobeithio bydd Sam Lousi ar gael am y penwythnos. Mae Josh Macleod yn dechrau cyflymu yn ei adferiad, mae Josh wedi gwella’n dda ac wedi bod yn broffesiynol iawn yn ystod ei amser wrth wella. Nad yw Johnny Williams rhy bell o ddychwelyd felly bydd hynny’n hwb mawr i’w gael yn ôl yn dilyn anaf i’w ysgwydd. Mae Patch cwpl o wythnosau i ffwrdd rydym yn gobeithio. O ran Cubby, mae’n broses araf ac mae angen iddo cymryd ei amser, pan mae’r amser yn iawn bydd Cubby nôl.

Faint o her fydd Caeredin gyda hyfforddwr newydd a chartref newydd?

DP: “Pwy bynnag ffordd i chi am ddisgwyl ar y sefyllfa, rydym yn edrych ymlaen at y cyfle o chwarae gêm cystadleuol. Yn amlwg, mae’n gyfnod cyffroes i Gaeredin ac rwy’n siwr fydd awyrgylch da yna, mae seddle’r cefnogwyr yn edrych eu fod yn agos iawn at y cae ac mae’r bois yn edrych ymlaen at chwarae ar drac cyflym. Gobeithiwn fydd hynny’n siwtio ni ac fe ewn ni yna a rhoi ein gorau glas.”

Wyt ti’n edrych ymlaen at y strwythur newydd?

DP: “Roedd llynedd yn anodd iawn i bawb, gyda’r PRO14 yn gorffen yn gynnar, wedyn Cwpan yr Enfys yn cychwyn, roedd hi’n gymysglyd iawn. Mae cael tymor llawn mewn gynghrair newydd a chynnwys timau’r De Affrig hefydd yn ddeiniadol iawn i mi. Rwy’n credu mae’n bwysig iawn bod pawb yn cefnogi’r URC ac yn ei hybu yn y ffordd cywir. Dwi am weld cymaint o bobl yn cefnogi’r tîm â phosib, fel rwy’n siwr mae pob tîm eisiau. Mae’n bennod newydd yn ein hanes yn y clwb ac edrychwn ymlaen ato. Fel wedais, rydym wedi gweithio’n galed dros yr haf, mae sawl neiwd positif wedi’i wneud yma ac rydym am rhoi ein gorau. Ennill neu colli, bydd y berfformiad yn dangos ein sefyllfa, os rydym am wella unrhwybeth byddwn yn gweithio ar hynny.”