Bydd y Scarlets yn herio’r Dreigiau ar Ddydd Calan yn ei ail darbi Guinness PRO14 yr Ŵyl.
Siaradodd Glenn Delaney a’r cyfryngau cyn i’r ddau dîm gwrdd ym Mharc y Scarlets Dydd Gwener. Dyma beth oedd ganddo i ddweud.
Beth yw’r ymateb i benderfyniad Jake Ball, faint o golled fydd hynny i’r Scarlets?
GD: “Bydd Jake yn golled enfawr i ni. Mae’n ddyn da, mae pawb yn y clwb yn nwli arno, ac mae’n chwarae ar dop ei gem ar hyn o bryd. Rydym yn deall ei benderfyniad i ddychwelyd i Awstralia, gan fod teulu yn rhan bwysig iawn o’r Scarlets. Mae’n chwarae gyda gwen mawr ei wyneb, ac rydym yn gobeithio bydd i wen yn parhau trwy gydol y tymor. Bydd ‘sgidiau Jake yn rhai mawr i lenwi.
Beth yw’r diweddaraf gydag anafiadau’r garfan? GD: “Mae digon o dalent ar gael wythnos yma. Mae Liam Williams, Sione Kalamafoni, Tom Prydie, Sam Lousi, Paul Asquith i gyd yn barod i gystadlu am ei le. Mae eraill wedi dechrau ymarfer ond ddim yn barod i chwarae eto.
Mae’n siŵr bod dychweliad Liam wedi rhoi hwb mawr?
GD: “Ni heb ddewis ein tîm eto, ond bydd Liam yn cael ei hystyried. Er iddo fod yn ymarfer bob dydd, mae’n bwysig iddo gymryd bob diwrnod yn araf. Ein dywediad am hynny yw pan maen nhw’n barod, maen nhw’n barod.
“Mae Ken wedi dychwelyd i ymarfer ar ôl seibiant hir felly mae’n braf cael cymeriadau fel Ken a Liam nol.
“Mae Liam yn ysu i chwarae, ac yn gweithio’n galed yn ymarferion. Mae’n hyfryd i weld yn ôl ar y cae ymarfer.”
Oes unrhyw ganlyniadau positif o Covid wythnos yma?
GD: “Ar hyn o bryd, nac oes. Rydym yn cymryd bob dydd fel y mae, ac yr wythnos hon yw’r tro cyntaf nad oed angen i ni newid ein cynlluniau am sawl wythnos.”
Faint ydych yn edrych ymlaen at chwarae’r Dreigiau?
GD: “Rydym yn gobeithio bydd y tywydd ar ein hochr y tro yma, ac yn cael noson o dywydd sych a’r bêl yn aros yn sych.
Faint o her fydd y Dreigiau?
“Mae’r Dreigiau yn dîm sydd yn datblygu yn dda iawn, ac yn magu hyder yn gyflym. Mae ganddyn nhw Nick Tompkins, Jamie Roberts, Jack Dixon sydd yn chwarae’n dda. Mae ganddyn nhw’r gallu i chwarae gêm gref a phwerus, ac mae nifer o’i chwaraewyr gyda’r gallu i reoli gem. Mae ei blaenwyr yn gweithio’n galed ac mae dynion cryf yn ei phac yn llawn egni. Mae’r Dreigiau yn dîm heriol iawn sydd yn gwybod fel i ennill a sut i frwydro a chystadlu yn y gêm. Llynedd yn Rodney Parade, cawsom ein trechu. Mae ganddyn nhw dîm hyfforddi da sydd yn gallu arwain y tîm ymlaen, ac felly fydd hi’n her i ni ar nos Wener. Bydd rhaid i ni roi 100% i mewn i’r gêm.
Gyda’r newyddion bod y gynghrair yn gorffen ym mis Mawrth, a’r ddau dîm uchaf yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol, a yw hyn yn newid eich ffordd o feddwl?
GD: “Mae gemau darbi yn bwysig iawn felly does dim newid. Bydd y gemau newydd yn cymryd lle yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad felly fyddwn yn ffocws y ffenest ryngwladol. Ac yn dilyn hynny, bydd y Cwpan Enfys yn cychwyn gyda thimoedd De Affrica felly bydd hynny yn gyfnod cyffroes iawn. Byddwn yn parhau i weithio’n galed wrth gasglu pwyntiau, ac yn targedu i orffen yn uchel yn y gynhadledd.”