O’r ‘stafell wasg: Glenn Delaney yn rhannu ei farn cyn gêm Gleision Caerdydd

Rob Lloyd Newyddion

Cafodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney sgwrs â’r cyfryngau ar Ddydd Iau cyn i’w dîm wynebu Gleision Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn mewn gêm Guinness PRO14 (GC 7:35yh). Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud

Faint o her fydd hi i wynebu’r Gleision nos Sadwrn?

GD: “Nad yw’r her yn lleihau wrth i amser fynd ymlaen. Rydym yn chwarae ochr creadigol iawn sydd fel arfer yn dacteg sy’n gweithio’n dda i ni. Bydd pawb yn disgwyl ymateb ac wrth nabod y bois sydd yng Nghaerdydd fe gawn ni un. Byddwn yn wynebu tîm cryf iawn penwythnos yma. Mae’r Gleision wedi wynebu sialens ei hun yr wythnos hon o ran ei hyfforddwr, ac mae hynny mynd i wthio nhw. Rydym yn ymwybodol o’r bygythiad ac rydym yn disgwyl iddyn nhw roi 100% yn ei pherfformiad.”

Ydych chi’n hyderus fyddwch yn ennill eich trydydd darbi yn olynol?

GD: “Beth sy’n bwysig i ni ar hyn o bryd yw sicrhau ein bod yn gwella ein perfformiad bob wythnos, ac mae rhannau o’n chwarae rydym yn gweithio ar yn gyson i wella. Bydd y ddau dîm yn hyderus ac yn disgwyl buddugoliaeth. Mae’r ffordd mae’r pwysau yn codi cyn gem darbi yn wahanol i’r arfer, ond mae’r cymhelliant yn parhau. Does dim angen creu awyrgylch cyn gemau fel hyn, ein swydd ni ydy sicrhau bod y chwaraewyr yn barod, yn greadigol ac yn gallu gweithredu.”

Beth ydy’r diweddaraf o ran anafiadau?

GD: “Mae Jake yn medru cerdded, mae ganddo anaf (ligaments) i’w ben-glin, ond ar hyn o bryd nid oes amserlen am ddychweliad. Mae Liam, Leigh, Jon, Johnny Williams a Ken i gyd yn ôl yn ymarfer. Maen nhw i gyd yn gweithio’n galed. Mae Rhys Patchell, Aaron Shingler a James Davies hefyd yn gweithio eu ffordd nol i’r cae. Mae Patch yn ôl ar y cae ac yn cymryd y camau i adnewyddu, ac mae’r gweddill yn gweithio ar eu rhaglenni unigol. Hoffwn yn fawr i allu dweud bydd y chwaraewyr yma nol yn chwarae mewn rhai wythnosau, ond ar hyn o bryd does dim dyddiadau penodol. Ei iechyd nhw sy’n flaenoriaeth, a mawr obeithiwn fyddwn yn gallu eu cynnwys mewn gemau yn y dyfodol agos. Mae Tyler Morgan allan oherwydd anaf a gafodd yn ystod gem y Dreigiau.

Gwnaeth Sam Costelow argraff dda iawn yn ei berfformiad yn erbyn y Dreigiau, beth yw eich cynllun am ei ddatblygiad?

GD: “Mae’n gyffroes iawn i weld dyn ifanc dechrau datblygu i mewn i’r chwaraewr rydym yn gobeithio i weld ganddo. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod ei brofiadau fel chwaraewr yn atgyfnerthu’r hyn maent yn dysgu yn y clwb.

“Cafodd rhyw 20 munud o chwarae cryf ac rydym yn gyson gyda’r ffordd yna o weithio. Gwelir hyn yn ei 20 munud yn erbyn Ulster, ac fe yrrodd y gêm yn erbyn Zebre. Rydym yn rhoi’r cyfleodd sy’n addas iddo ar hyn o bryd, ac erbyn diwedd ei dymor cyntaf fydd ganddo sawl ymddangosiad i’w enw. Rhaid i ni sicrhau bod Sam yn ymdopi’n iawn gyda’i ddatblygiad.

“Rydym nawr wedi treulio chwe mis yn gweithio gyda Sam, ac mae’n berson grêt i weithio gydag ac rydym yn siŵr bod ganddo ddyfodol disglair. Ein targed nawr yw magu ei hyder o’r slot 20 munud o chwarae ac ymestyn yn araf iawn i’r 80 munud unwaith mae’n barod. Mae ganddo hyfforddwr da iawn sef Rich Whiffin a Dai Flanagan sy’n gweithio agos iawn iddo, ac mae nifer o chwaraewyr da o’i hamgylch sy’n helpu iddo addasu. Yn sicr mae ganddo ddyfodol disglair ac rydym yn parhau i roi’r cyfleoedd sy’n addas iddo.