O’r Stafell Wasg: Glenn Delaney yn siarad â’r wasg o flaen gêm Toulon

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg cyn yr ail rownd o Gwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Toulon ar ddydd Gwener. Dyma’r uchafbwyntiau o’r gynhadledd i’r wasg.

Gan edrych yn ôl ar y fuddugoliaeth yn erbyn Caerfaddon, pa mor falch oeddet ti o’r ymdrech amddiffynnol?

GD: “Gallwch weld pa mor dynn mae’r grŵp yma. Fel hyfforddwyr, gallwch ond neud cymaint i helpu’r bois, mae llawer o bethau mae rhaid dibynnu arnyn nhw i wneud, ac roedd hynny yn un o’r momentau yna. Mae’r corff yn gwneud beth mae’r meddwl yn ei ofyn. Pan mae’r meddwl yn gryf, dyna’r ymdrech sydd yn dod. Mae’r bois gwastad yn creu argraff dda yn amddiffynnol yn enwedig ar ein llinell er enghraifft yn ystod y gêm yng Nglasgow tymor diwethaf. Mae ganddyn nhw’r cymeriad yna, ac mae rhaid i ni barhau i annog a’u datblygu nhw.”

Pa mor bles oeddet ti gyda’r ymdrech oddi’r fainc penwythnos diwethaf?

GD: “Rydym yn gwybod gallwn ddibynnu ar y fainc i chwarae eu rhan a chreu effaith. Credaf fod Javan Sebastian yn haeddu llawer o glod am ei rhan gan eilyddio Samson yn gynnar yn y gêm. Hwynebodd sialens enfawr yn erbyn Beno Obano sy’n brop pen rhydd dinistriol ac fe wnaeth Javan ymdrech ardderchog yn ei erbyn. Mae ei chwarae yn dod ymlaen yn dda, roedd y sgrymio yn agwedd da ond roedd yna adegau gwych ar draws y cae hefyd.”

Oes yn diweddariad o ran anafiadau?

GD: “Mae Jake a Samson yn dilyn protocolau HIA felly ni fyddwn yn barod ar gyfer y gêm dydd Gwener. Mae Liam, Johnny Williams a Patch yn gwella bob dydd a fyddwn yn ychwanegu’n fawr at ein gêm pan fyddwn yn barod i ddychwelyd. Dros y misoedd diwethaf, cawsom gyfle i ddatblygu dyfnder ein carfan ac rydym yn hapus gyda fel mae’r bois gyda’i gilydd. Mae Johnny McNicholl yn ymarfer ac rydym yn obeithiol iddo. Cawn wybod mwy am ei asennau yn dilyn ein sesiwn prynhawn.”

Beth wyt ti’n i feddwl am y sialens o wynebu Toulon?

GD: “Maent yn dîm mawr iawn, iawn gydag athletwyr da hefyd. Mae Ma’a Nonu yn ôl ac wedi creu effaith i’w chwarae. Gydag ef tu allan i Louis Carbonel fydd hynna yn fygythiad enfawr gan fod Carbonel yn 10 ardderchog sydd yn reddfol ac mae Ma’a gyda llawer o brofiad sydd yn gallu arwain nhw. Mae’r tîm wedi cryfhau ers i ni eu chwarae nhw diwethaf. Maent yn dîm pwerus gydag Eben Etzebeth, Romain Taofifenua, Sergio Parisse. Byddent yn dîm peryglus i chwarae yn erbyn. Roeddwn yn agos tro diwethaf, ond heb dynnu trwy at y diwedd. Rhaid sicrhau ein bod yn brwydro i gystadlu a chymryd bob cyfle.”

Bydd fuddugoliaeth arall yn rhoi’r Scarlets mewn safle da?

GD: “Gan edrych ar y fformat, mae’n frwydr hir, yn enwedig gan chwarae mewn pool. Yn barod gallwn weld y gystadleuaeth yn dechrau siapio a gallwch weld sut mae’r gystadleuaeth yn dod ymlaen. Yn fy marn i, os allwch fod ar y blaen ar ôl yr ail rownd, rydych yn rhoi eich hun mewn safle da gydag ond dwy gêm i fynd. Bydd rhai timoedd gyda rhyw 10 o bwyntiau a fydd rhai ar ddim a fyddwn yn dechrau newid eu ffordd o feddwl.”