Cafodd Dai Flanagan sgwrs gyda’r wasg o flaen ein gêm diwethaf o’r tymor yn erbyn Caeredin ar ddydd Sul. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud.
Sut deimlad yw hi i baratoi i chwarae o flaen dorf eto?
DF: “Mae’n anhygoel. Mae’n ffactor enfawr i’r chwaraewyr, y staff ac wrth gwrs y cefnogwyr, sydd rwy’n siwr yn edrych ymlaen i ddod nôl. Mae mynd i fod yn ddiwrnod grêt yma a mor neis i gael nhw nôl. Mae pawb yn edrych ymlaen ac rydym wedi gweld mwy o ymdrech yn cael ei rhoi i mewn yn ystod ymarfer wythnos yma wrth i bawb eisiau chwarae yn y gêm. Mae’r staff wedi bod yn brysur iawn, gyda pobl yn gweithio’n hwyr i sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer y penwythnos.”
Beth yw dy ymateb i garfan Cymru, grêt i Tom Rogers, ond siomedig i chwaraewyr fel Jac Morgan a Rob Evans?
DF: “Mae Tom yn broffesiynol iawn, wrth wneud y mwyaf o’i brofiad yma gyda Leigh, Liam, Steff Evs a Johnny McNicholl. Mae wedi dysgu llawer wrth y bois sydd yma, ac yn gwneud yn siwr i gael y mwyaf allan ohonynt. Yn gorfforol, mae wedi newid ei gorff yn gyfan gwbl. Yn ystod y cyfnod clo fe adeiladodd gym yn ei garej gan wario llawer o’i arian. Fe fuddsoddodd yn ei hun ac mae’r penderfyniad yn talu ffordd. Mae beth mae Tom wedi cyflawni i lawr i waith caled. O ran rheiny sydd heb cael eu dewis, dwi heb weld y siom yna. Mae’r bois wedi troi lan i gwaith a cario ymlaen. Mae’r siom o fewn rygbi proffesiynol yn annochel ond mae’r bois i gyd wedi ymateb yn y ffordd iawn. Mae’r bois yn edrych ymlaen yn fawr at chwarae ar ddydd Sul.”
Beth yw’r diweddaraf o ran anafiadau?
DF: “Mae Dane Blacker nôl yn rhedeg a cicio, ond ni fydd yn barod ar gyfer y penwythnos yn anffodus. Fel dwedais o’r blaen, rydym yn mynd i roi cyfleoedd i chwaraewyr sydd yn bwysig i ni blwyddyn nesaf a rhoi amser i’r bois ifanc sydd heb chwarae llawer y tymor yma. Mae gan Samson botensial i fod yn y 23, mae nôl yn ymarfer yn llawn, ac wedi ymarfer yn llawn am y dau y ddwy, tair wythnos diwethaf. Mae Ryan Conbeer wedi ymarfer yn galed ac rwy’n siwr mae pawb yn edrych ymlaen at ei weld yn y 23.”
Sut fydd hi i ffarwelio chwaraewyr?
DF: “Mae rhwyun fel Werner Kruger, sydd wedi bod yn chwaraewr anhygoel a rhyw 500 o ymddangosiadau proffesiynol i’w enw, dyma’i wythnos diwethaf fel chwaraewr proffesiynol ac mae’n trysori bob munud. Dydd Gwener bydd ein diwrnod olaf yn ymarfer fel un grwp mawr ac rwy’n siwr fydd gan y bois cwpl o bethau i ddweud i fynegi ein diolch.”
Yn dilyn tymor anodd, oes angerdd i orffen ar nodyn uchel?
DF: “100%. I ni am adael marc ar y cefnogwyr, mae nhw wedi colli dod yma yn enwedig i Barc y Scarlets lle mae llawer o fywydau bobl wedi’u trefnu o hamgylch gemau. I ni am roi’r teimlad yna i nhw, buzz o beth sydd i ddod y tymor nesaf fel ein bod gallu edrych ymlaen i’r tymor newydd.”