Parc y Scarlets i gynnal darbi Gŵyl San Steffan

Aadil Mukhtar Newyddion

Mae’r Gweilch yn cadarnhau y bydd gem Guinness PRO14 yn erbyn y Scarlets yn cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets ar Ŵyl San Steffan, y gic gyntaf am 5:15yh.

Cafodd cae Stadiwm y Liberty ei ail-osod yn dilyn gêm Pencampwriaeth clwb pêl-droed Abertawe yn erbyn Barnsley ar ddydd Sadwrn. Bydd cae hybrid newydd o ansawdd uchel sydd yn cael ei ddefnyddio gan glwb pêl-droed Tottenham Hotspur yn yr Uwch Gynghrair yn disodli’r cae presennol am weddill y tymor.

Bydd y gêm, a fydd yn gêm gartref swyddogol i’r Gweilch, yn cael ei ddarlledu ar Premier Sports.

Dywedodd Phil Morgan, prif swyddog gweithredu’r Scarlets: “Pan gysylltodd y Gweilch â ni yn dilyn y penderfyniad i ail-osod cae Stadiwm y Liberty, roedd bwrdd y Scarlets yn hapus i gynnig ein cymorth i’r Gweilch ac i glwb pêl-droed Abertawe, sydd wedi defnyddio cyfleusterau ym Mharc y Scarlets yn y gorffennol.

“Er i’r Scarlets a’r Gweilch fod yn wrthwynebwyr ffyrnig, mae’n bwysig i chwaraeon yng Nghymru i weithio gyda’i gilydd ac rydym yn edrych ymlaen at darbi cyffroes ym Mharc y Scarlets ar Ŵyl San Steffan.”