Fe lwyddodd Scarlets A i sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Celtiadd gyda buddugoliaeth wyth cais dros y Dreigiau yn Ystrad Mynach prynhawn Sul.
Fe fydd rownd derfynol cyntaf erioed y Cwpan Geltaidd yn cael ei chwarae ym Mharc y Scarlets prynhawn Sadwrn, cic gyntaf 16:00.
Gwrthwynebwyr y Scarlets bydd Leinster a drechodd Munster yn y rownd olaf penwythnos diwethaf.
Gallwch brynu tocynnau ar y diwrnod. Mwy o fanylion i ddilyn cyn bo hir.