Peel: “Prawf yn erbyn Munster yw beth sydd angen”

Rob Lloyd Newyddion

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel mai chwarae tîm llwyddiannus Munster yw beth sydd angen ar ei dîm wrth gychwyn misoedd olaf yr ymgyrch.

Bydd y ddau dîm yn mynd benben a’u gilydd ym Mharc Musgrave yn Cork ar nos Wener yn dilyn rhediad llwyddianus o gemau.

Mae Munster wedi ennill pump allan o’u chwe gêm diwethaf ym mhob cystadleuaeth, wrth i’r Scarlets parhau eu rhediad o ennill chwe gêm yn olynol.

Y Gweilch collodd i Munster diwethaf 58-3, wrth i’r Scarlets curo Caeredin o 42 pwynt i 14 yn y gêm diwethaf ym Mharc y Scarlets.

“Mae’n peth da i ni dwi’n credu,” dywedodd Peel, wrth siarad i’r wasg o flaen gêm rownd 15 yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar nos Wener.

“Mae’n brawf enfawr ac yn rhywbeth sydd angen arnom ni ar hyn o bryd. Rydym ar rhediad llwyddiannus ar hyn o bryd, ond nad oes llawer o brofion mwy heriol nag mynd i Munster. Dwi’n edrych ymlaen fel hyfforddwr, mae’r chwaraewyr yn edrych ymlaen ac mae’n gyfle i ni weld ble ydyn ni. Yn debyg i ni, mae Munster yn chwarae’n dda ar hyn o bryd.

“Dros yr wythnosau diwethaf i ni wedi gwella a tyfu ac mae’r bois mewn lle da. Yn amlwg mae agweddau mae angen i ni weithio ar ac i ni’n gwybod mi fydd hi’n her i ni. Mae angen i ni allu cystadlu a gwthio ein hunain yn erbyn timau fel Munster pan yn chwarae ar eu tomen nhw.”

Pwysleisiodd Peel ei awydd i roi cyfleoedd i’r chwaraewyr ifanc yn y carfan.

He added: “It is something I have been talking about over the last couple of weeks. Since my time here we have tried to transition the next generation, the next group of Scarlet regulars. The club have been very fortunate over the last 10 years they have had a group of players who have been excellent, who have gone on to play international rugby and a lot of them for the British & Irish Lions, it is important we see the next group of players coming through.

“Os edrychwch ar gêm Caeredin, roedd Shaun Evans, Sam Wainwright, Dan Davis, Kemsley Mathias, Morgan Jones i gyd yn dechrau, dw i wedi sôn am y canolwyr ifanc (Joe Roberts, Ioan Nicholas a Eddie James), mae’r bois yna yn rhoi dyfodol disglair i’r clwb. Nid yn unig rhoi cyfle sy’n bwysig, ond mae’r chwaraewyr yna yn haeddu’r crys wrth i nhw berfformio’n dda.”

Mae’r carfan yn cryfhau gyda dychweliad o anafiadau y chwaraewyr rhyngwladol sef Josh Macleod, Johnny Williams a Tom Rogers, sydd ar gael ar gyfer y gêm yn Cork.

Munster yn erbyn Scarlets ar nos Wener 7.35yh. Bydd y gêm yn fyw ar BBC Wales a Viaplay.