Penderfyniad Disgyblu: Tevita Ratuva

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r ail reng Tevita Ratuva wedi’i atal am dair wythnos yn dilyn gwrandawiad disgyblu annibynnol yn Llundain yn deillio o gêm rownd dau Cwpan Her Ewropeaidd yn erbyn RC Toulon yn Stade Félix Mayol.

Cafodd Ratuva ei anfon i ffwrdd o’r maes gan y dyfarnwr Tom Foley (Lloegr) yn 40fed munud yr ornest am daro Mamuka Gorgodze ail reng RC Toulon gyda’i ysgwydd yn groes i Gyfraith 9.12.

Clywodd pwyllgor disgyblu annibynnol yn cynnwys David Martin (Iwerddon), Cadeirydd, Antony Davies (Lloegr) a Marcello d’Orey (Portiwgal), gyflwyniadau a thystiolaeth gan Ratuva, a dderbyniodd y penderfyniad cerdyn coch, gan reolwr tîm y Scarlets Sara Davies a gan swyddog disgyblu EPCR Liam McTiernan.

Cadarnhaodd y pwyllgor benderfyniad y cerdyn coch gan ddarganfod bod Ratuva wedi taro Gorgordze i’w ben gyda’i ysgwydd mewn modd di-hid. Penderfynwyd bod y drosedd ar ganol ystod cosbau Rygbi’r Byd a dewiswyd chwe wythnos fel y pwynt mynediad priodol.

Nid oedd unrhyw ffactorau gwaethygol, ac oherwydd ple euog y chwaraewr, cofnod disgyblu clir a mynegiant edifeiriol yn amserol, gostyngodd y pwyllgor y sancsiwn gan yr uchafswm o 50% cyn gosod ataliad o dair wythnos.

Mae Ratuva yn rhydd i chwarae ddydd Llun, 16 Rhagfyr.