PHILLIPS I ARWAIN OCHR IFANC Y SCARLETS

Natalie Jones Newyddion

Fe fydd Tom Phillips, cyn gapten Cymru dan 20 yn arwain tîm ifanc y Scarlets yn nhrydydd rownd y Cwpan Prydeinig a Gwyddelig.

Fe fydd tîm Dethol y Scarlets yn wynebu Cornish Pirates ym Mharc Caerfyrddin ar brynhawn Sul 10fed Rhagfyr, cic gyntaf 2.30YP.

Mae’r Scarlets yn yr ail safle yn y grwp yn dilyn buddugoliaeth dros Hartpury a cholled agos yn erbyn Ulster A yn y rowndiau agoriadol.

Mae gwrthwynebwyr dydd Sula r frig y grwp yn dilyn dwy fuddugoliaeth yn y rowndiau agoriadol gyda naw phwynt.

Daw Alex Schwarz, Jacob Botica a Tom Hughes o RGC1404 i mewn i’r tîm am y tro cyntaf yn yr ymgyrch.

Tîm Dethol y Scarlets i wynebu Cornish Pirates ym Mharc Caerfyrddin, Sul 10fed Rhagfyr, cic gyntaf 2.30YP;

15 Tom Rogers, 14 Ioan Nicholas, 13 Tom Hughes, 12 Billy McBryde, 11 Ryan Conbeer, 10 Jacob Botica, 9 Alex Schwarz, 1 Rhys Fawcett, 2 Dafydd Hughes, 3 Javan Sebastian, 4 Josh Helps, 5 Chris Long, 6 Shaun Evans, 7 Dan Davis, 8 Tom Phillips (c)

Eilyddion: 16 Matthew Moore, 17 Steff Thomas, 18 Nicky Thomas, 19 Joe Powell, 20 Gareth George, 21 Jack Maynard, 22 Rhodri Jones

Gemau Cwpan Prydeinig a Gwyddelig Scarlets;

Rownd 4: Cornish Pirates v Scarlets Stadiwm Cernyw, Sul 17eg Rhagfyr CG 2.30YP

Rownd 5: Hartpury v Scarlets yng Ngholeg Hartpury, Sadwrn 13eg Ionawr CG 2.30YP

Rownd 6: Scarlets v Ulster A ym Manc yr Eglwys, Llanymddyfri, Sadwrn 20fed Ionawr CG 3YP