Pivac yn talu teyrnged i Beirne

Kieran Lewis Newyddion

Mae Tadhg Beirne yn mwynhau wythnos arbennig ac mae digon yn dal i ddod!

Nos Wener roedd e’n rhan o’r fuddugoliaeth arbennig dros Glasgow wnaeth sicrhau lle y rhanbarth yn rownd derfynol Guinness PRO14 am yr ail flwyddyn yn olynnol ac erbyn nos Sadwrn roedd wedi ei enwi’n Chwaraewr Cefnogwyr y Tymor a Chwaraewr y Chwaraewyr yn ogystal ac ennill tlws Cais y Tymor yng nghinio diwedd tymor y Scarlets.

Roedd ei gais yn erbyn Caerfaddon yn rownd 5 Cwpan Pencampwyr Ewrop, yr un cais a ennill Cais y Tymor yng ngowbrau’r Scarlets, wedi ei enwi ar restr fer ceisiau’r tymor yn y gystadleuaeth gan EPCR.

Cafodd ei enwi yng ngharfan 32-dyn Iwerddon ar gyfer taith yr haf i Awstralia ddydd Mercher.

Fe fydd ei wythnos arbennig, a’i gyfnod gyda’r Scarlets, yn dod i ben ddydd Sadwrn wrth iddo wynebu ei hen glwb Leinster yn rownd derfynol Guinness PRO14 yn Stadiwm Aviva.

Wrth adlewyrchu ar gyfraniad Beirne dywedodd y prif hyfforddwr Wayne Pivac; “Mae wedi bod yn wych. Am chwaraewr oedd yn edrych fel ei fod heb gytundeb ac ef oedd y safle olaf i ni ei wneud. Doedd dim llawer o arian gyda ni ac fe wnaethon ni chwilio i weld beth oedd ar gael. Mae Tadhg wedi’n talu ni’n ôl ac wedi bod yn arbennig!

“Mae wedi chwarae yn yr ail reng, 6, 8 ac fe fydde fe’n ddigon hapus chwarae ar yr asgell os byddai angen iddo wneud! Mae e’n wych oddi ar y cae ac mae e’n gweithio’n galed iawn ar ei gêm. Mae wedi cyfrannu’n arbennig.

“Mae wedi bod yn wych a dwy’n methu dweud digon amdano.”

Leinster v Scarlets, rownd derfynol Guinness PRO14, Stadiwm Aviva, Dulyn, CG 18:00. Yn fyw ar Sky Sports a S4C.