Mae’n amser i ddewis chwaraewr y mis a dyma’ch pedwar enw ar gyfer mis Rhagfyr!
Gyda gêm ddwbl Ewropeaidd dros Bayonne, mae’r Scarlets yn parhau i fod yn gadarn wrth chwilio am gymhwyster ar gyfer rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Her Ewrop, tra bod yr ochr wedi bownsio’n ôl o drechu Guinness PRO14 munud olaf i’r Dreigiau gyda buddugoliaeth swmpus 44-0 ar Ddydd San Steffan dros y Gweilch.
Ar y cyd â’r tîm hyfforddi, rydym wedi dewis y pedwar chwaraewr ar gyfer gwobr mis Rhagfyr.
Yr enillwyr blaenorol oedd Kieran Hardy (Hydref) a Josh Macleod (Tachwedd).
Leigh Halfpenny
Dychwelodd Leigh o ddyletswydd Cwpan y Byd i ffwrdd yn Bayonne ac roedd fel pe na bai erioed wedi bod i ffwrdd, gan lanio rhai ciciau hollbwysig wrth i’r Scarlets hawlio eu buddugoliaeth gyntaf ar bridd Ffrainc mewn pum mlynedd. Yn gadarn ac yn sicr o dan y bêl uchel, mae wedi bod yn fygythiad ac wedi croesi am gais yn y fuddugoliaeth gartref dros Bayonne.
Angus O’Brien
Mae’r maswr wedi bod yn ddatguddiad ers camu i mewn i’r crys Rhif 10, gan ennill gwobrau seren y gêm yn ei ymddangosiadau ym mis Rhagfyr yn erbyn Bayonne a’r Gweilch. Daeth y chwaraewr cyntaf yn y PRO14 i gyflwyno hat-tric o geisiau cynorthwyol yn ystod buddugoliaeth Dydd San Steffan.
Sam Lousi
Mae’r ail reng o Donga wedi taro deuddeg ers iddo gyrraedd Llanelli ac wedi bod wrth wraidd ymdrech becyn bwerus. Dechreuwyd ym mhob un o’r pedair gêm ym mis Rhagfyr. Nododd y prif hyfforddwr Brad Mooar ei berfformiad wrth drechu yn y Dreigiau a dilynodd hynny gydag arddangosfa wych yn erbyn y Gweilch.
Uzair Cassiem
Mae Cass yn cyrraedd y rhestr fer am y trydydd mis yn olynol. Yn seren y gêm yn y fuddugoliaeth oddi cartref yn Bayonne, mae wedi parhau i gadw’r bar yn uchel ac mae’n un o’r prif gludwyr yn y PRO14 a’r Cwpan Her.