Os ydych yn dod i’r gêm Ddydd Sul yn erbyn Bryste ym Mharc y Scarlets dyma beth sydd angen i chi wybod
Oes angen pás COVID i fynychu’r gêm?
BYDD ANGEN pás Covid y GIG i ddod i’r stadiwm. Gallwch lawrlwytho’r app trwy’r ddolen yma. Nid oes angen derbyn brechlyn booster i ddod i’r gêm.
https://gov.wales/get-your-nhs-covid-pass
Y dewis arall i hynny yw dangos canlyniad negyddol o brawf lateral flow diweddar.
Bydd disgwyl i chi ddangos eich pás at brif gatiau’r stadiwm. Cyrrhaeddwch o fewn digon o amser er mwyn osgoi ciwio os gwelwch yn dda. Byddwch yn barod i ddangos eich pás wrth gyrraedd y stadiwm.
A fydd pellhau cymdeithasol ar waith ar ddiwrnod gêm?
Rydym yn annog i gefnogwyr i ddilyn canllawiau Covid-19 Iechyd Cyhoeddus fel y gall pawb fwynhau’r gêm mewn amgylchedd diogel. Ni fydd canllawiau cadw pellter wrth i stand y De, Gogledd, Gorllewin agor ynghyd teras y Gogledd.
Os ydw i’n teimlo’n sâl, gallai ddod i’r gêm?
Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, gan gynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli blas neu arogl ni ddylech fynychu’r gêm.
Os ydw i wedi derbyn canlyniad positif o Covid-19, beth dylai wneud?
Os ydych wedi dychwelyd prawf COVID-19 positif o fewn 10 diwrnod i ddyddiad y gêm, ni allwch fynychu’r gêm.
Oes angen gwisgo mwgwd?
Rydym yn cynghori cefnogwyr i wisgo mwgwd yn y concourse dan do. Anogir cefnogwyr yn gryf i ddod â gorchudd wyneb i’w wisgo pan fyddant yn y stadiwm, yn unol ag arweiniad ar gynulliadau mewn lleoedd caeedig.
Oes tocynnau ar gael i’w brynu ar y diwrnod?
Oes. Bydd y Swyddfa Docynnau ar agor o 9yb tan hanner amser.
Ydy’r siop ar agor?
Ydy, bydd y siop ar agor o 1yp tan y gic gyntaf wedyn yn ail agor am hanner awr wedi’r chwiban olaf.
Ble allai barcio?
Bydd parcio i’r cyhoedd ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Y gost yw £5 y car.
Pryd mae gatiau’r stadiwm yn agor?
Bydd lletygarwch ar agor o 3:30yp, gyda’r gatiau’n agor i’r cyhoedd am 3:30 hefyd.
Oes shuttle bus i’r gêm?
Oes, mae bws wennol ar gael am y gêm hon.
Dyma’r manylion
Ydy’r ciosg bwyd a diod ar agor?
Ydy. Bydd hefyd gwasanaeth ‘click and collect’ trwy’r app newydd. Dyma’r linc i’r app
South Stand
https://goodeats.io/South1Kiosk – Cwm Farm South Food Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S3 – South Beer Kiosk
https://goodeats.io/Scarlets-S4 – Crazie South Food Kiosk
North Stand & Terrace
https://goodeats.io/North1Kiosk – North Beer Kiosk
https://goodeats.io/North2Kiosk – North Food Kiosk
https://goodeats.io/North5Kiosk North Beer Kiosks
West Stand
https://goodeats.io/Scarletswestbeer – West Beer Kiosk
https://goodeats.io/WestFood – Crazie West Food Kiosk
Ydy Pentref y Cefnogwyr ar agor?
Nad yw Pentref y Cefnogwyr ar agor ar gyfer y gêm yma oherwydd canllawiau Covid Llywodraeth Cymru.
Beth am y Bar Guinness?
Bydd y Bar Guinness (yn Stand y Dwyrain) ar agor o 3:30yp gyda seddi tu allan yn unig.
Bydd Lolfa Stradey ar gau i’r cyhoedd.