Popeth sydd angen i chi wybod os ydych chi’n dod i’r gêm yn erbyn Glasgow

Rob Lloyd Newyddion

Os ydych yn dod i’r gêm Ddydd Sadwrn yn erbyn Glasgow Warriors ym Mharc y Scarlets dyma beth sydd angen i chi wybod (cic gyntaf 5:15pm)

Oes angen i mi gymryd prawf Covid neu dangos pas Covid GIG?

Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymu, NID OES ANGEN pas COVID i fynychu’r gêm. Rydym yn annod pob cefnogwr i ddilyn y canllawiau er mwyn i bawb allu fwynhau’r gêm yn ddiogel.

Os dwi’n teimlo’n anhwylus, gallai ddod i’r gêm?

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, gan gynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli blas neu arogl ni ddylech fynychu’r gêm.

Gallai brynu tocynnau ar y diwrnod?

Oes. Bydd y Swyddfa Docynnau ar agor o 9yb tan hanner amser.

Yw siop y clwb ar agor?

Ydy, bydd y siop ar agor o 2yp tan y gic gyntaf ac yn agor eto am hanner awr ar ôl y chwiban olaf.

Ble allai barcio?

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Parc Trostre. Mae’n costi £5 y car ac rydych yn talu ar y gât sydd ar agor o 4:30yp.

Pryd mae’r gatiau’n agor?

Bydd lletygarwch ar agor o 3:15yp, mae’r gatiau’n agor i’r cyhoedd o 4yp.

Oes bws wennol?

Oes, mae bws wennol ar gael am y gêm hon.

Dyma’r manylion

Ydy’r kiosks bwyd a diod ar agor?

Ydyn. Bydd hefyd gwasanaeth ‘click and collect’ trwy’r app newydd. Dyma’r linc i’r app

South Stand 

https://goodeats.io/South1Kiosk – Cwm Farm South Food Kiosk

https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk

https://goodeats.io/Scarlets-S3 – South Beer Kiosk

https://goodeats.io/Scarlets-S4 – Crazie South Food Kiosk

North Stand & Terrace

https://goodeats.io/North1Kiosk – North Beer Kiosk

https://goodeats.io/North2Kiosk – North Food Kiosk

https://goodeats.io/North5Kiosk  North Beer Kiosks

West Stand  

https://goodeats.io/Scarletswestbeer – West Beer Kiosk

https://goodeats.io/WestFood – Crazie West Food Kiosk

Ydy Pentref y Cefnogwyr ar agor?

Bydd Pentre’r Cefnogwyr ar agor o 3:15yp. Bydd y bar a stondynau bwyd ar agor a bydd rygbi tag hefyd.

Beth am y Bar Guinness?

Bydd y Bar Guinness (yn Stand y Dwyrain) ar agor o 3:15yp. Bydd cerddoriaeth byw cyn ac ar ôl y gêm.

A fydd yna rygbi tag yn ystod hanner amser?

Byddwn yn croesawu clybiau rygbi Llangennech, Llanelli Wanderers, New Dock Stars, Bynea a Penybanc i Barc y Scarlets yfory.

Bydd casgliad tu allan i’r stadiwm ar gyfer codi arian i gymunedau Wcrain, wedi’i drefnu gan Clwb Rotari Llanelli.