Popeth sydd angen i chi wybod os ydych chi’n dod i’r gêm yn erbyn Munster ar Ddydd Sul

Rob LloydNewyddion

Os ydych chi’n dod i’r gêm yn erbyn Munster ar Ddydd Sul ym Mharc y Scarlets dyma popeth sydd angen i chi wybod.

A fydd unrhyw rheolau cadw pellter?

Rydym yn annog i gefnogwyr i ddilyn canllawiau Covid-19 Iechyd Cyhoeddus fel y gall pawb fwynhau’r gêm mewn amgylchedd diogel. Ni fydd canllawiau cadw pellter wrth i stand y De, Gogledd, Gorllewin agor ynghyd teras y Gogledd.

Os ydw i’n teimlo’n sâl, gallai ddod i’r gêm?

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, gan gynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli blas neu arogl ni ddylech fynychu’r gêm.

Os ydw i wedi derbyn canlyniad positif o Covid-19, beth dylai wneud?

Os ydych wedi dychwelyd prawf COVID-19 positif o fewn 10 diwrnod i ddyddiad y gêm, ni allwch fynychu’r gêm.

Oes angen gwisgo mwgwd?

Rydym yn cynghori cefnogwyr i wisgo mwgwd yn y concourse dan do. Anogir cefnogwyr yn gryf i ddod â gorchudd wyneb i’w wisgo pan fyddant yn y stadiwm, yn unol ag arweiniad ar gynulliadau mewn lleoedd caeedig.

Oes angen i mi gymryd prawf covid neu dangos pasbort brechlyn?

Rydym yn annog cefnogwyr i gymryd prawf lateral flow, ond nad yw hyn yn angenrheidiol i ddod i’r stadiwm. Nad oes angen pás COVID i ddod i’r gêm yma, ond fydd angen dangos pás i ddod i’r stadiwm ar gyfer gêm Benetton ar Hydref 22.

Oes tocynnau ar gael i’w brynu ar y diwrnod?

Oes, gallwch brynu o’r Swyddfa Docynnau o 9yb i 2yp.

Ydy’r siop ar agor?

Ydy, bydd y siop ar agor o 10yb nes y gic gyntaf ac am 45 munud ar ôl y chwiban olaf.

Ble allai barcio?

Bydd parcio i’r cyhoedd ar gael ym Maes Parcio B sydd ochr draw i dafarn Sessile Oak. Pris bob car fydd £5.

Pryd mae gatiau’r stadiwm yn agor?

Mae lletygarwch ar agor o 11:30yb, bydd y gatiau’n agor i’r cyhoedd am 12:30yp.

Oes bws wennol i’r gêm?

Oes, mae bws wennol ar gael am y gêm hon.

Dyma’r manylion

Ydy’r ciosg bwyd a diod ar agor?

Ydy. Bydd hefyd gwasanaeth ‘click and collect’ trwy’r app newydd. Dyma’r linc i’r app

South Stand – https://goodeats.io/South1Kiosk – South Food Kiosk

https://goodeats.io/Scarlets-S2 – South Beer Kiosk

North Stand & Terrace – https://goodeats.io/North2Kiosk – North Food Kiosk

https://goodeats.io/North5Kiosk – North Beer Kioks

West Stand – 

Ydy Pentref y Cefnogwyr ar agor?

Ydy, mae’r barn ar agor o 12yp. Bydd digwyddiadau i blant, stondynau bwyd a bar. Bydd hefyd adloniant byw.

Beth am y Bar Guinness?

Bydd y Bar Guinness (yn stand Dwyrain) ar agor cyn y gêm gyda cherddoriaeth byw cyn ac ar ôl y gêm am awr.