Mae prop D20 Cymru Louie Trevett wedi ymuno â’r Scarlets ar gytundeb byrdymor o Bristol Bears.
Mae’r prop pen rhydd 19 oed wedi dod i mewn i’r garfan yn dilyn anaf y chwaraewr rhyngwladol Kemsley Mathias cyn y gêm yn erbyn y Stormwyr mis diwethaf.
Roedd Trevett yn rhan o ymgyrch D20 Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac mae wedi ymddangos i’r Bears yng Nghwpan y Gynghrair tymor yma.