Fe fydd datblygiad newydd Enzo’s Homes, Mansion Gardens, yn creu lleoliad tawel a llonydd i’r preswylwyr newydd.
Mae’r datblygiad newydd o dai 3, 4 a 5 ystafell wely wedi’i gelu yng Nghoedwig Penllergaer yn ei wneud yn hawdd i chi guddio oddi wrth pob peth ond hefyd yn agos at bop peth hefyd.
Mae Mansion Gardens yn gwneud y mwyaf o gronfa ddwr, rhaedrau, bywydd gwyllt, coes a milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r datblygiad newydd.
Aeth sêr y Scarlets a Chymru Gareth Davies a Ryan Elias draw i gyfarfod dau o’r preswylwyr newydd wythnos diwethaf i weld sut mae’r tai yn datblygu.
Mae Michael a Joanne wedi gallu prynu oddi ar y cynllun gan wneud penderfyniadau eu hunain am yr eitemau mewnol.
“Ry’n ni’n byw yn Abertawe ar hyn o bryd ond wedi cael fy magu ym Mhenllergaer rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd,” medd Joanne.
“Yn ogystal â’r lleoliad sy’n teimlo’n wledig iawn roedd e’n fuddiol iawn ein bod ni wedi gallu prynu oddi ar y cynllun.”
Am wybodaeth pellach am Mansion Gardens ewch i Pinkmove neu cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 01792 737 404.
.