Pum Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan Cymru i herio’r Barbariaid

Rob LloydNewyddion

Mae pum Scarlet wedi’u henwi yng ngharfan 23 dyn Cymru i wynebu’r Barbariaid yng Nghaerdydd ar Tachwedd 4.

Bydd y chwaraewr rheng ôl Taine Plumtree, mewnwr Kieran Hardy, maswr Sam Costelow, canolwr Johnny Williams a’r asgellwr/cefnwr Tom Rogers yn rhan o’r gêm sydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality.

Mae 16 o’r garfan sydd wedi’u dewis wedi dychwelyd o Gwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, gyda saith chwaraewr, gan gynnwys Plumtree a Rogers, wedi’u hychwanegu. Jac Morgan sydd wedi’i enwi yn gapten.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae gennym gymysgedd dda o’r bechgyn gymrodd ran yng Nghwpan y Byd a chwaraewyr eraill sydd wedi bod yn rhan o’r garfan yn ddiweddar hefyd.

“Ry’n ni wedi dewis carfan gymharol fechan ar gyfer yr ornest hon – gan nad oeddem eisiau amharu’n ormodol ar drefniadau’r Rhanbarthau.

“Nid oes unrhyw unigolion sy’n chwarae eu rygbi yn Siapan, Lloegr na Ffrainc wedi eu cynnwys ar gyfer y gêm hon – gan nad yw eu gwasanaeth ar gael i ni.

“Mae’n paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd 2027 yn dechrau nawr. Wrth edrych ar y talent a’r potensial sydd gennym wrth law – mae’r pedair blynedd nesaf yn argoeli i fod yn gyfnod cyffrous iawn.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyd-weithio gyda’r garfan a gweld y chwaraewyr yn datblygu a thyfu.”

Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ym Mhentre’r cefnogwyr ym Mharc y Scarlets o flaen gêm URC y Scarlets yn erbyn Caerdydd (5.15yp).

Carfan Cymru i baratoi i herio’r Barbariaid yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn y 4ydd o Dachwedd. (2.30pm yn fyw ar S4C).

BLAENWYR | FORWARDS (13): Corey Domachowski (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 6 caps), Nicky Smith (Ospreys / Gweilch – 46 caps), Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 46 caps), Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 12 caps), Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 caps), Leon Brown (Dragons / Dreigiau – 12 caps), Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 51 caps), Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 10 caps), Teddy Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap), Dan Lydiate (Dragons / Dreigiau – 72 caps), Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 15 caps) *captain / capten, Taine Plumtree (Scarlets – 2 caps), Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 43 caps)OLWYR | BACKS (10): Kieran Hardy (Scarlets – 18 caps), Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 53 caps), Sam Costelow (Scarlets – 8 caps), Cai Evans (Dragons / Dreigiau – 1 cap), Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 6 caps), George North (Ospreys / Gweilch – 118 caps), Johnny Williams (Scarlets – 7 caps), Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 14 caps), Leigh Halfpenny (unattached / heb glwb – 101 caps), Tom Rogers (Scarlets – 3 caps).