Pump Scarlet wedi’u henwi am gêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad

Rob LloydNewyddion

Mae Sam Costelow, Gareth Davies a Ryan Elias wedi’u henwi yn y XV i ddechrau yn erbyn yr Alban yn y rownd agoriadol o’r Bencampwriaeth Chwe Gwlad yn Stadiwm y Principality ar Ddydd Sadwrn (16:45).

Wedi’u henwi ar y fainc mae Kemsley Mathias ac Ioan Lloyd a fydd yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf yn y bencampwriaeth.

Y maswr Costelow bydd yn gwisgo crys rhif 10 am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth, wedi gwneud saith ymddangosiad allan o wyth oddi’r fainc. I’r mewnwr Davies, y chwaraewr mwyaf profiadol yn yr ochr, dyma fydd ei 74ain ymddangosiad i Gymru.

Y chwaraewr o Gaerfyrddin Elias a oedd y dewis cyntaf fel bachwr yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc a fydd yn parhau yng nghrys rhif 2, wrth i’r prop o Sir Benfro Mathias ennill ei gap cyntaf yn ystod yr haf yn erbyn Lloegr.

Yn dilyn ei berfformiadau diweddar i’r Scarlets, mae Lloyd wedi ennill lle yn y garfan am y tro cyntaf ers Gemau’r Hydref 2020, pan gafodd y bencampwriaeth ei gynnal yn Llanelli dros cyfnod Covid.

Prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland sydd wedi enwi carfan ifanc i wynebu’r Albanwyr gyda’r cefnwr heb gap Cameron Winnett i ddechrau ar Ddydd Sadwrn.

Yn 21 mlwydd oed a 60 diwrnod ar Ddydd Sadwrn, Dafydd Jenkins bydd y capten ifancaf ond un i gapteinio Cymru ar ôl Gareth Edwards.

Dywedodd Gatland: “Mae yna cydbwysedd da yn y garfan. Roedd sawl un o’r chwaraewyr wedi bod yn rhan o’r garfan Cwpan y Byd felly mae yna sawl un profiadol ymysg y bois ifanc.

“Mae’r chwaraewyr yn deall pwysirwydd y gêm gyntaf yma yn y gystadleuaeth. O flaen stadiwm sydd wedi’i werthu mas, i fynd allan a dechrau’r pencampwriaeth ar nodyn da, fe allwch greu lot fawr o fomentwm. Dwi’n falch iawn o agwedd y bois ac fel maen nhw wedi ymarfer yr wythnos hon ac mae yna gyffro amdano’r gêm gyntaf yma.”

Tîm Cymru i wynebu’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, Dydd Sadwrn 3 Chwefror CG 4.45yp GMT. Yn fyw ar BBC a S4C.

15. Cameron Winnett (Cardiff Rugby / Caerdydd – uncapped / heb gap)

14. Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 54 caps)

13. Owen Watkin (Ospreys / Gweilch – 36 caps)

12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 32 caps)

11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 14 caps)

10. Sam Costelow (Scarlets – 8 caps)

9. Gareth Davies (Scarlets – 74 caps)

1. Corey Domachowski (Cardiff Rugby / Caerdydd – 6 caps)

2. Ryan Elias (Scarlets – 38 caps)

3. Leon Brown (Dragons / Dreigiau – 23 caps)

4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 12 caps) Captain / Capten

5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 51 caps)

6. James Botham (Cardiff Rugby / Caerdydd – 9 caps)

7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr –  13 caps)

8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 43 caps)

Replacements

16. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 46 caps)

17. Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)

18. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 caps)

19. Teddy Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap)

20. Alex Mann (Cardiff Rugby / Caerdydd – uncapped / heb gap)

21. Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 53 caps)

22. Ioan Lloyd (Scarlets – 2 caps)

23. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 6 caps)