Pump Scarlet wedi’u henwi yn nhîm Cymru i wynebu Lloegr

GwenanNewyddion

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi ei dîm i herio Lloegr ar Ddydd Sadwrn yma (Awst 12, CG 5.30yp yn fyw ar Prime Video yn Saesneg ac yn Gymraeg).

Yn dilyn y fuddugoliaeth i Gymru penwythnos diwethaf o 20-9 yng Nghaerdydd, bydd Cymru yn teithio i Stadiwm Twickenham ar gyfer yr ail gêm gyfeillgar wrth i’r tîm dangos sawl newid o’r gêm diwethaf.

Y canolwr heb gap Joe Roberts bydd y 1,192il chwaraewr i gynrychioli Cymru pan fydd yn camu ymlaen i’r cae ar Ddydd Sadwrn ac yn rhif 251 o chwaraewyr rhyngwladol y Scarlets. Bydd Nick Tompkins yn bartner iddo yng nghanol cae.

Mae Kemsley Mathias wedi’i enwi ar y fainc a fydd yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf os yn dod ymlaen i’r cae.

Mae Taine Plumtree a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru penwythnos diwethaf wedi’i ddewis fel wythwr a’r asgellwr Tom Rogers yn ymddangos am y tro cyntaf i’w wlad ers Gorffennaf 2021.

Kieran Hardy sydd wedi’i enwi ar y fainc.

Tîm dynion Cymru i chwarae Lloegr yn Stadiwm Twickenham, Dydd Sadwrn 12 Awst, CG 5.30yp. Yn fyw ar Prime Video yn Gymraeg a Saesneg.


15. Liam Williams (Kubota Spears – 84 caps)
14. Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 49 caps)
13. Joe Roberts (Scarlets – uncapped / heb gap)
12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 27 caps)
11. Tom Rogers (Scarlets – 2 caps)
10. Owen Williams (Ospreys / Gweilch – 7 caps)
9. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 46 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys /Gweilch – 21 caps)
2. Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 8 caps): captain / capten
3. Tomas Francis (Provence – 71 caps)
4. Rhys Davies (Ospreys / Gweilch – 2 caps)
5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch– 46 caps)
6. Dan Lydiate (Dragons / Dreigiau – 69 caps)
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 9 caps)
8. Taine Plumtree (Scarlets – 1 cap)

Replacements
16. Sam Parry (Ospreys / Gweilch – 5 caps)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – uncapped / heb gap)
18. Dillon Lewis (Harlequins – 50 caps)
19. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 6 caps)
20. Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 11 caps)
21. Kieran Hardy (Scarlets – 17 caps)
22. Dan Biggar (Toulon – 108 caps)
23. Keiran Williams (Ospreys / Gweilch – uncapped / heb gap)