Rhagolwg Caeredin v Scarlets: Cyfweliad Kieran Hardy

Rob Lloyd Newyddion

Mae Kieran Hardy yn credu bydd gweithio gyda arwr ei blentyndod Dwayne Peel yn help enfawr i’w gêm y tymor yma.

Roedd mewnwr y Scarlets Kieran Hardy ond yn wyth mlwydd oed pan aeth i Barc y Strade gyda’i dad i weld Peel yn cipio teitl yr hen gynghrair Geltaidd yn 2004.

Undeg saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae Peel yn cychwyn ei yrfa hyfforddi gyda’r Scarlets yn gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gyda Hardy yn ei dîm i ffwrdd yng Nghaeredin ar ddydd Sadwrn – gêm sy’n fyw ar S4C.

Mae Hardy yn gobeithio gall Dwayne ddysgu llawer o driciau newydd iddo er mwyn profi ei werth yn y crys Scarlets wrth frwydro yn erbyn Gareth Davies a Tomos Williams am grys Cymru yn yr Hydref.

“Mae’n gyfle cyffroes iawn i mi,” dywedodd y chwaraewr 25 oed, a wnaeth serennu yn ystod y Benampwriaeth Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.

“Roedd Dwayne yn chwaraewr arbennig yn ei amser ac mae ganddo llawer o brofiad. Nad yw wedi ymddeol yn hir iawn fel chwaraewr..

“Dwi’n gofyn llawer o gwestiynau iddo a trial dysgu cymaint a dwi gallu. Dwi gallu gofyn ei farn ar sefyllfaoedd byse mewnwr efallai yn dod ar draws.

“Rydym wedi siarad am fel i chwarae’r safle. I mi, dwi am ddysgu cymaint wrtho a gwella fy chwarae bob wythnos.

“Mae Dwayne yn rhoi’r hyder i’r mewnwyr i allu rhannu eu barn a pan ydyn yn gweld y cyfle mae’r hyder yna i fentro.

“Pan rydym yn mynd i ffwrdd gyda charfan Cymru, rwy’n siwr bydd Dwayne yn astudio’r gemau ac yn rhoi ei farn i ni. Mae’n bwysig i gadw edrych am ffyrdd i wella”

Cafodd Hardy ei fagu ym Mhontyberem, ac wedi teimlo agosrwydd at Peel a fagwyd yn Nhymbl, yn y pentref drws nesaf.

Yn gefnogwr brwd fel plentyn, un o hoff atgofion Hardy o Peel oedd y noson chwaraeodd y Scarlets yn erbyn Ulster i ennill y Gwpan Celtaidd am y tro cyntaf, y talaith wnaeth Dwayne adael i ddychwelyd adref dros yr haf.

“Yr un gêm sy’n aros yn y cof oedd pan ennillwn yr hen Gwpan Celtaidd. Dwi’n cofio mynd gyda fy nhad ac mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod. Roedd Dwayne yn un o’r chwaraewyr allweddol – yn arweinydd da ar y cae.

“Roedd ei berfformiad wastod ar darged pan welais i fe’n chwarae.

“Tyfais lan yn gwylio Dwayne yn chwarae i’r Scarlets a Chymru ac rwy’n cofio ei daith gyda’r Llewod hefyd.

“Felly, mae’n grêt i gael rhywun fel Dwayne gyda ni – rhywun sy’n nabod y clwb mor dda ac yn angerddol am y Scarlets. Mae’n werthfawr iawn i ni.

“Mae eisiau i ni chwarae’r gêm mewn steil gwahanol ac mae’r bois wedi ymateb i hynny. Beth mae Dwayne wedi pwysleisio yw pwrpas y cynllun. Nid yr ymosod sy’n bwysig yn unig yn y gêm. Mae’r amddiffyn, yr ymosod a popeth arall yn bwysig hefyd.

“Mae sawl agwedd gyda ni i weithio ar, ond fel 9, mae’n grêt i fi. Mae dysgu cymaint wrth rhywun fel Dwayne yn amrhisiadwy.”

I Peel, bydd gwyneb cyfarwydd yn nhîm Caeredin ar nos Sadwrn yn eu cartref newydd.

Cyn-faswr yr Alban Mike Blair sydd wrth y llyw yn y brif ddinas, wedi cymryd drosodd yn y rôl wrth Richard Cockerill, sydd wedi symud i weithio gyda Eddie Jones a Lloegr.

Roedd Blair yn gwrthwynebydd i Dwayne yn aml yn ystod ei dyddiau Chwe Gwlad ac ychwanegodd Hardy: “Bydd hi’n ddiddorol i weld y ddau ochr allan yna, gyda’r arweinydd newydd. Mae’n her mawr i ni, mae Caeredin wedi chwarae’n dda dros y blynyddoedd diwethaf. Mae steil yr Alban o chwarae’n agored yn sicr wedi gadael ei farc ar Gaeredin.

“Dwi wedi chwarae yng Nghaeredin dwy neu tair gwaith nawr ac dwi erioed wedi ennill yna, felly mae’n leoliad anodd.

“Ond dwi’n edrych ymlaen at y gystadleuaeth newydd. Y peth mwyaf yw cael y chwaraewyr nôl. I ni wedi colli’r gefnogaeth yna llynedd a fydd hi’n anhygoel i gael pawb nôl.”

S4C: Dydd Sadwrn, 5.00yh – Edinburgh Rugby v Scarlets

Darllediad byw o’r gêm. Cic gyntaf am 5:15yh.