Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu Diwrnod Rownd Derfynol Cwpan Scarlets ar ddydd Sul 13eg Mai.
Fe fydd enillwyr rowndiau terfynol ieucntid Sir Gâr a Sir Benfro yn mynd wyneb yn wyneb yng Nghwpan y Scarlets.
Fe fydd timau dan 12 i dan 16 yn chwarae trwy gydol y dydd ym Mharc y Scarlets gyda chefnogaeth gan deulu a ffrindiau.
Gemau Cwpan Scarlets;
Porth Tywyn v Dinbych y Pysgod, Dan 12, 10:30
Quins Caerfyrddin v Hendygwyn ar Daf, Dan 13, 11:45
Y Tymbl v Abergwaun a Gwdig, Dan 14, 13:00
Athletic Caerfyrddin v Dinbych y Pysgod, Dan 15, 14:15
Cefneithin v Porth Tywyn, Dan 16, 15:30
Pris mynediad yw £3 i oedolion, £2 i henoed a mynediad am ddim i blant dan 16 mlwydd oed. Fe allwch brynu tocynnau wrth gyrraedd Lolfa Quinnell ac fe fydd lluniaeth ysgafn ar werth wrth y bar.