Ryan Elias a Gareth Davies i wynebu Awstralia yn Lyon

GwenanNewyddion

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Awstralia yn Stadiwm OL Lyon yn eu trydedd gêm yng Nghwpan y Byd 2023.(Sul 24 Medi 8pm BST / 9pm amser Ffrainc – yn fyw ar S4C ac ITV).

Yn y rheng flaen, mae Ryan Elias wedi ei ddewis yn fachwr ar gyfer ei bedwerydd ymddangosiad yng Nghwpan y Byd.

Gareth Davies sydd wedi’i enwi yn safle’r mewnwr yn dilyn y perfformiad fuddugol yn erbyn Portiwgal penwythnos diwethaf.

Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni’n garfan hapus wrth edrych ymlaen at y gêm hon. Mae gennym ddwy fuddugoliaeth a deg o bwyntiau. Mae hyder amlwg yn y garfan ac mae’r sesiynau ymarfer wedi bod ag awch arbennig iddyn nhw’r wythnos hon.

“Mae pawb eisiau bod yn rhan o’r garfan ar gyfer y gêm ac felly’n naturiol mae nifer o chwaraewyr yn siomedig. Dyna’n union beth sydd ei angen arnom – sef cystadleuaeth gref ym mhob safle.

“Os y byddwn y chwarae fel yr ydw i’n gwybod y gall y bechgyn berfformio – a hynny am yr 80 munud cyfan – fe fyddwn yn anodd iawn i’n curo.”