Ryan Elias a Gareth Davies yn dychwelyd i ochr Cymru ar gyfer rownd yr wyth olaf

Rob LloydNewyddion

Ryan Elias a Gareth Davies fydd yn dychwelyd i ochr Cymru ar gyfer gêm rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn yr Ariannin yn Marseille (4yp amser DU, yn fyw ar S4C a ITV).

Mae’r ddau chwaraewr Scarlet wedi serennu yn y twrnamaint ac fe berfformiwyd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia i helpu Cymru fynd trwy i’r rownd nesaf.

Yn dilyn y fuddugoliaeth 43-19 yn erbyn Georgia penwythnos diwethaf, mae Cymru wedi paratoi ar gyfer rownd yr wyth olaf yng ngwersyll y tîm yn Toulon.

Aaron Wainwright sydd yn newid i safle wythwr yn lle Taulupe Faletau sydd wedi’i anafu, wrth i Liam Williams a Dan Biggar goresgyn profion ffitrwydd i gymryd eu lle yn y tîm i ddechrau.

Mae Sam Costelow, a wnaeth ddechrau yng nghrys rhif 10 yn erbyn Georgia, wedi’i enwi ar y fainc.

Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland: “Ein targed oedd i gyrraedd rownd yr wyth olaf, ac rydym wedi cyflawni hynny. Nawr mae rhaid adeiladu ar y momentwm hynny.

“Mae’n wych i gyrraedd y rowndiau yma o’r twrnamaint ac rydym yn barod am yr her. Mae’r holl paratoi wedi ein harwain at y foment yma ac mae’r chwaraewyr yn ysu am y cyfle.

“Bydd disgwyl am gystadleuaeth anodd yn erbyn yr Ariannin. Nad ydyn wedi cael y perfformiad perffaith eto, ond wedi dangos nad ydyn yn dîm rhwydd i guro.

“Mae llawer o ddatblygiad yn y garfan yma – fel grwp ac yn unigol – ni methu aros i fod yna yn Marseille ar Ddydd Sadwrn.”

Tîm Cymru ar gyfer gêm Cwpan Rygbi’r Byd 2023 yn erbyn yr Ariannin yn Stade de Marseille. Dydd Sadwrn 14 Hydref, CG 4yp BST / 5yp CET. Yn fyw ar S4C a ITV.
15. Liam Williams (Kubota Spears – 88 caps); 14. Louis Rees Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw – 31 caps), 13. George North (Ospreys / Gweilch – 117 caps), 12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 31 caps), 11. Josh Adams (Cardiff Rugby  / Caerdydd – 53 caps); 10. Dan Biggar (Toulon – 111 caps), 9. Gareth Davies (Scarlets – 73 caps); 1. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 25 caps), 2. Ryan Elias (Scarlets – 37 caps), 3. Tomas Francis (Provence Rugby – 76 caps), 4. Will Rowlands (Racing 92 – 28 caps), 5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 50 caps), 6. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 14 caps) captain / capten*, 7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 12 caps), 8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 42 caps)

Eilyddion: 16. Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 11 caps), 17. Corey Domachowski (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 5 caps), 18. Dillon Lewis (Harlequins – 53 caps), 19. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 11 caps), 20. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 9 caps), 21. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 52 caps), 22. Sam Costelow (Scarlets – 7 caps), 23. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 13 caps).