Ryan Elias yn ail-arwyddo cytundeb gyda’r Scarlets

Gwenan Newyddion

Y bachwr Ryan Elias yw’r chwaraewr rhyngwladol diweddaraf i gytuno cytundeb newydd gyda’r Scarlets.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae’r chwaraewr 26 oed yn un o sawl chwaraewyr Scarlets sydd wedi datblygu o fewn y rhanbarth ac wedi mynd ymlaen i dderbyn cap i’w gwlad.

Gwnaeth Elias ei ymddangosiad cyntaf yn 2013 yn ystod gêm LV=Cup yn erbyn Saracens ac erbyn heddiw wedi chwarae 127 o gemau yn lliwiau’r Scarlets.

Yn aelod o’r dîm wnaeth ennill teitl y Guinness PRO12 yn 2017 enillodd ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Tonga yn Auckland yr un flwyddyn ac roedd yn aelod o garfan Cymru a wnaeth gyrraedd y rownd gyn-derfynol o Gwpan y Byd 2019 yn Siapan.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Mae Ryan yn rhan enfawr o’r garfan yma er iddo fod ond 26 oed, mae ganddo llawer o brofiad gan chwarae dros ganrif o gemau i’r Scarlets.

“Mae Ryan a Ken o’r un clwb, Clwb Athletic Caerfyrddin, ac mae’n ffantastig bod y ddau wedi mynd ymlaen i gynrychioli’r Scarlets a Chymru. Rydym wedi gweld perfformiadau mawr gan Ryan y tymor yma; mae’n gwthio Ken yr holl ffordd a fydd yn parhau i wella gydag amser.”

Ychwanegodd Ryan: “Gan fy mod i o’r rhanbarth, dyfais i fyny gyda’r nod i chwarae i’r Scarlets ac dw i wrth fy modd fy mod i wedi arwyddo cytundeb newydd.

“Mae’r Scarlets yn glwb uchelgeisiol sydd am gystadlu’n gyson yn erbyn y gorau yn y PRO14 ac yn Ewrop. Rydym i gyd wedi’u siomi gyda’r golled yn erbyn Sale, ond rydym yn ymwybodol ein bod gwell nag beth dangosom ar y diwrnod a gyda’r ansawdd sydd yn ein carfan, rydym yn benderfynol i fod yn ôl yn y ‘knockout stages’ o Gwpan Pencampwyr y tymor nesaf.

“Mae ysbryd da ymysg y bois, mae llawer ohonom yn fois lleol sydd wedi tyfu i fyny yn chwarae gyda’n gilydd. Rydym am orffen yr ymgyrch yn dda gyda perfformiadau cryf yng Nghwpan yr Enfys a dw i’n edrych ymlaen i helpu’r ochr i wthio ymlaen dros y tymhorau i ddod.”