Rygbi Cymru yn talu teyrnged i Leigh

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Leigh Halfpenny yn ennill ei 100fed gap pan fydd Cymru yn chwarae Canada.

Ar ddydd Sadwrn, bydd Leigh wedi gwneud 96 o ymddangosiadau i Gymru ond wedi cyfuno gyda’i pedwar prawf i’r Llewod, dyma fydd ei 100fed cap prawf.

Ers wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn De Affrica yn 19 mlwydd oed yn 2008, mae Halfpenny wedi chwarae ar y lefel uchaf o rygbi am 13 o flynyddoedd.

Dyma rygbi Cymru yn talu teyrnged i’w cyrrhaeddiad…

Prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac

“Mae’n anferthol i unrhyw chwaraewr, yn enwedig gyda chreulondeb y gêm fodern, ac i ddyn o’i maint ef. Nad yw Leigh yn ddyn mawr, ond mae’n edrych ar ôl ei hun yn dda.

“Mae’n dangos pa mor broffesiynol yw Leigh, y ffordd mae’n gwella ar ôl pob ymdrech, ac sut mae’n paratoi ei hun yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer yr her nesaf.

“Mae’n esiampl da i’r bois ifanc i ymarfer wrth ei ochr – i weld sut mae rhywun mor broffesiynol yn ymddwyn, mae’n rhoi’r amser i mewn i’w gorff, ac yn gwneud y gwaith cartref.

“Mae rhywun fel Tommy Rogers wedi gwneud llawer gyda Leigh yn y clwb ac gyda Jonah Holmes hefyd, sydd mewn siap da i’w glwb, tri ôl gyffroes iawn ar gyfer y penwythnos.”

Hyfforddwr y blaenwyr Jonathan Humphreys

“Dyma un o’n chwaraewyr mwyaf profiadol.

“Pan yn ifanc ac yn dod i mewn i’r garfan ac yn edrych ar ddyn sy’n chwarae ei 100fed Prawf ond rhywun sy’n hefyd rhoi popeth i mewn i’w rehab, ar beth mae’n disgwyl ar y cyfrifiadur, a beth mae’n ei wneud ar ôl ymarferion, mae hynny’n bwysig iddyn nhw.

“Mae’n berson gwych i unrhyw chwaraewr ifanc i edmygu. I ni am i bobl i sylweddoli mai dyna’r safon rydym yn anelu at, dyna’r diwylliant, dyna beth sydd angen i mi wneud os dwi am gyrraedd y lefel yna.

“Fel allwch weld, mae Leigh yn ddyn tawel ond fe allwch weld yn cymysgu gyda llawer o wahanol bobl yma.

“Mae’n esiampl arbennig, nid ar ar hyn mae’n ei ddweud ond beth mae’n ei wneud.

“Dwi methu canu ei glod digon. Mae’n fy synnu sut mae ei holl gyrrhaeddiadau heb ei effeithio.

“Mae gan Leigh llawer o ffydd yn y tîm ac eisiau i nhw wneud yn dda. Dyna’r esiampl rydym eisiau.”

Canolwr y Scarlets a chapten Cymru Jonathan Davies

“Leigh ydy un o’r chwaraewyr mwyaf broffesiynol dwi erioed wedi cwrdd o ran ei ddiwydrwydd ym mhopeth mae’n ei wneud.

“Fe yw’r un o’r rhai diwethaf i ddod i ffwrdd o’r cae ymarfer. Dwi wrth fy modd iddo ar gyrrhaedd 100 Prawf.

“Mae’n ffrind grêt, ac wedi chwarae ei rhan ar hyd y blynyddoedd i fy helpu i ennill medalau felly dwi arno fe diod neu ddau!

“Rydym yn cael llawer o sbort ar ac oddi’r cae. Mae’r ffordd mae’n paratoi ar gyfer gemau yn grêt i’r bois ifanc yn y garfan i weld y gwaith sydd yn mynd i mewn os ydych am gyrrhaedd y top. Mae’n dangos y gwaith sydd angen i gyrrhaedd y lefel yna.”

Hyfforddwr cynorthwyol Canada a chyn hyfforddwr ymosod y Llewod Rob Howley

“Mae ei ymrwymiad a’i ymroddiad i’r gêm ac wrth baratoi ar gyfer gemau rhyngwladol yn anghredadwy.

“Pan wyt ti yn y stadiwm ac yn gweld pa mor galed mae Leigh yn gweithio am gemau rhyngwladol, mae’n haeddu pob clod.

“Er iddo fod yn 100 o gapiau Prawf yn cynnwys y Llewod felly nid 100 o gapiau i Gymru, dwi wrth fy modd iddo a’i deulu.

“Mae’n paratoi ar gyfer pob gêm rhyngwladol fel petai yr un olad iddo ac mae hynny’n dangos cymaint am gymeriad y dyn a’i allu i chwarae’r gêm wrth amddiffyn ac ymosod.”