Roedd hi’n foment balch iawn i’r maswr Sam Costelow ar Ddydd Sadwrn wrth iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ar ôl dod ymlaen i’r cae yn ystod yr ail hanner yn erbyn y Crysau Duon.
Fe yw’r 246ed chwaraewr Scarlets i gynrychioli’u gwlad gyda Vaea Fifita hefyd yn ymuno’r rhestr. Fe wnaeth y blaenwr, sydd wedi’i gapio 11 o weithiau i’r Crysau Duon, cychwyn am y tro cyntaf i Tonga yn ystod ei buddugoliaeth yn erbyn Sbaen ym Malaga.
Wrth i Leigh Halfpenny dynnu allan o’r XV i gychwyn yn erbyn y Crysau Duon, Ken Owens oedd yr unig Scarlet i ddechrau yn y tîm ar Ddydd Sadwrn ac yn chwarae ei gêm rhyngwladol gyntaf am rhyw 20 mis. Fe wnaeth Costelow, Ryan Elias a Kieran Hardy dod oddi’r fainc, ond nad oeddynt yn gallu atal Seland Newydd rhag y fuddugoliaeth 55-23 yn Stadiwm y Principality.
Bydd Cymru yn chwilio i daro nôl yn erbyn yr Ariannin ar nos Sadwrn. Fe lwyddodd Los Pumas i drechu Lloegr yn Twickenham yn ei gêm agoriadol ar y penwythnos.
Ac i Tonga, y gêm nesaf fydd yn Bucharest lle byddwn nhw’n gwynebu Chile.