Sam Costelow a Tom Rogers wedi’u galw i mewn i dîm Cymru

Rob LloydNewyddion

Mae Sam Costelow a Tom Rogers wedi’u galw i mewn i ochr Cymru ar gyfer gêm Dydd Sadwrn yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd.

Bydd Costelow yn cymryd lle Dan Biggar, sydd wedi tynnu mas oherwydd anaf i’ gefn, wrth i Rogers (yn y llun) ddod i mewn yn lle yr asgellwr Liam Williams o ganlyniad i anaf i’w hamstring ac Alex Cuthbert (calf).

Mae’r pâr yn ymuno â’r chwaraewyr Scarlet Kieran Hardy a Johnny Williams yn y XV i herio’r Boks yng ngêm olaf Cymru cyn i Warren Gatland enwi ei garfan 33 dyn ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.