Mae Sam Hidalgo-Clyne, y mewnwr rhyngwladol o’r Alban, wedi ymuno âr Harlequins ar gytundeb fenthyciad gan y Scarlets am weddill y tymor.
Bydd yr unigolyn 25 oed yn cysylltu ag ochr Gallagher Premiership fel eilydd anafiadau a bydd yn cael ei gofrestru yn eu carfan Ewropeaidd cyn rownd derfynol chwarter Cwpan yr Her yn erbyn Caerwrangon ar ddiwedd y mis.
Capiwyd Hidalgo-Clyne 12 gwaith yn yr Alban, ag ymunodd a ni yma yn y Scarlets yr haf diwethaf o Gaeredin.
Dywedodd Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets: “Mae’n gyfle i Sam gael mwy o rygbi. Mae hefyd yn arwydd o ba mor hapus ydym ni gyda’r cynnydd y mae Kieran Hardy a Declan Smith wedi’i wneud. ”