Sam Lousi wedi ei enwi yng ngharfan Tonga ar gyfer Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel

Kieran Lewis Newyddion

Mae chwaraewr newydd y Scarlets, Sam Lousi, wedi ei enwi yng ngharfan Tonga ar gyfer Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel 2019.

Er i’r chwaraewr ail reng golli mwyafrif o dymor super rugby yr Hurricanes oherwydd anaf i gyhyr dwyfronnol, mae’n holliach mewn pryd i’r gystadleuaeth sy’n cychwyn ar 27ain o Orffennaf gyda gornest yn erbyn Kieron Fonotia o Samoa yn Apia.

Bydd Sam Lousi, sydd wedi ei enwi yng ngharfan Tonga am y tro cyntaf, yn ymuno â’r Scarlets ar gyfer tymor 2019-2020.

Mae Tonga yn yr un pwll â Lloegr, Ffrainc, yr Ariannin a’r UDA ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd.

Carfan Tonga

Blaenwyr

Paea Fa’anunu (Castres, FR), Siegfried Fisi’ihoi (Stade Francais, FR), Toma Taufa (Bayonne, FR), Paul Ngauamo (Agen, FR), Elvis Taione (Exeter Chiefs, DU), Sefo Sakalia (Asia Pacific Dragons, SG), Ma’afu Fia (Gweilch, DU), Siua Halanukonuka (Glasgow Warriors, DU), Ben Tameifuna (Racing 92, FR), Leva Fifita (Grenoble, FR), Onehunga Havili (Exeter Chiefs, UK), Sam Lousi (Hurricanes, NZ), Steve Mafi (Castres, FR), Zane Kapeli (Bay of Plenty, NZ), Fotu Lokotui (Kagifa Samoa, WS), Nasi Manu (Benetton Treviso, IT), Sione Vailanu (Saracens, DU), Ma’ama Vaipulu (Castres, FR)

Olwyr

Sami Fisilau (Auckland Marist, NZ), Leon Fukofuka (Kagifa Samoa, WS), Tane Takulua (Newcastle Falcons, DU), Otumaka Mausia (Auckland, NZ), Siale Piutau (Bristol Bears, DU), Nafi Tuitavake (Northampton Saints, UK), Viliami Lolohea (Papatoetoe, NZ), Afa Pakalani (Eastwood, AU), Cooper Vuna (Bath, DU), Tevita Halaifonua (Coventry, DU), Fetuli Paea (Tasman, NZ)