Sam Lousi yng ngharfan Tonga ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel

Kieran Lewis Newyddion

Mae Sam Lousi ar fin gwneud ei brawf cyntaf ar gyfer Tonga yng nghystadleuaeth Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel ddydd Sadwrn gyda Samoa yn Apia.

Mae un o chwaraewyr newydd y Scarlets wedi cael ei enwi yn yr ail reng ar gyfer y gêm rownd gyntaf ym Mharc Apia.

Collodd Lousi mwyafrif y tymor gyda’r tîm Super Rugby, yr Hurricanes, oherwydd anaf cyhyrau pectoral, ond mae wedi gwella i wneud ei fwa rhyngwladol ar gyfer y Pacific Islanders.

Mae Tonga hefyd yn chwarae’n erbyn Japan a Chanada yng Nghwpan y Pacific Nations wrth iddynt adeiladu tuag at Gwpan Rygbi’r Byd yn Japan.

Samoa: 15 Ahsee Tuala, 14 Johnny Vaili, 13 Alapati Leiua, 12 Reynold Lee-Lo, 11 Belgium Tuatagaloa, 10 Ulupano Seuteni, 9 Auvasa Falealii, 8 Afaesetiti Amosa, 7 TJ Ioane, 6 Chris Vui, 5 Kane Leaupepe, 4 Teofilo Paulo, 3 Paul Alo Emile, 2 Motu Matu’u (c), 1 Logovi’i Mulipola

Eilyddion: 16 Ray Niuia, 17 Jordan Lay, 18 Alofa’aga Sao, 19 Vaito’asa Senio Toleafoa, 20 Alamanda Motuga, 21 Dwayne Polataivao, 22 AJ Alatimu, 23 JJ Taulagi.

Tonga: 15 Nafi Tu’itavake, 14 Tevita Halaifonua, 13 Malietoa Hingano, 12 Cooper Vuna, 11 Viliami Lolohea, 10 James Faiva, 9 Samisoni Fisilau; 1 Paea Fa’anunu, 2 Elvis Taione, 3 Ben Tameifuna, 4 Leva Fifita, 5 Sam Lousi,  6 Onehunga Havili, 7 Maama Vaipulu,8 Nasi Manu (c).

Eilyddion: 16 Sefo Sakalia, 17 Toma Taufa, 18 Ma’afu Fia, 19 Zane Kapeli, 20 Fotu Lokotui, 21 Sione Vailanu, 22 Leon Fukofuka, 23 Otumaka Mausia.